Llyfrgell adroddiadau Canolfan Tystiolaeth Cofid-19 Cymru
Cafodd Canolfan Tystiolaeth Cofid-19 Cymru ei sefydlu ym mis Mawrth 2021 er mwyn arolygu’r cyfoeth ymchwil Cofid-19 oedd ar gael, i wneud yn siwr – o ran Cofid-19 - bod y dystiolaeth a ddefnyddir wrth lunio penderfyniadau iechyd a gofal cymdeithasol yn gyfredol ac yn berthnasol i Gymru.
Gan weithio gyda’u partneriaid ymchwil, mae tïm y Ganolfan Tystiolaeth yn cynhyrchu adroddiadau ar destunau megis defnyddio mygydau, niferoedd sy’n cymryd y brechlyn a throsglwyddiad Cofid-19 – adroddiadau sydd yn darparu gwybodaeth ynghylch y canfyddiadau allweddol a goblygiadau polisi ac ymarfer a all ddod yn sgil y canfyddiadau hyn. Caiff yr adroddiadau hyn eu rhannu gyda rhanddeiliaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru fel cymorth ar gyfer llunio penderfyniadau gan weinidogion, arweinwyr GIG a’r sectorau gofal cymdeithasol ac hefyd aelodau’r cyhoedd.
Gallwch ddysgu rhagor am y pynciau y mae’r Ganolfan yn ymchwilio iddynt trwy eu rhaglen waith.
Mae’r Ganolfan yn cynhyrchu pedwar math o adroddiad:
- Crynodeb Tystiolaeth Gyflym - Rapid Evidence Summary (RES) – Yn rhoi gwybodaeth gynnar ynghylch ymchwil sydd ar gael ac yn egluro’r cam nesaf yng ngwaith y Ganolfan.
- Map Tystiolaeth Gyflym - Rapid Evidence Map (REM) – Defnyddir fel cymorth i glustnodi pwnc ar gyfer adolygiad cyflym ac adnabod bylchau yn y dystiolaeth ymchwil.
- Adolygiad Cyflym - Rapid Review (RR) – Crynodeb o’r dystiolaeth ymchwil sydd ar gael. Gellir defnyddio’r adroddiadau hyn i hyrwyddo polisi ac ymarfer.
- Adroddiad - Report (R) – Disgrifiad o’r astudiaethau ymchwil sydd yn cael eu cynnal yng Nghymru.
Isod fe restrir yr holl adroddiadau sydd ar gael gan Ganolfan Tystiolaeth COFID-19 Cymru. Caiff adroddiadau eu cynhyrchu yn gyflym a byddwn yn diweddaru’r llyfrgell yn gyson.
Os bydd unrhyw anhawster ynghylch cael mynediad at yr adroddiadau, gallwch gysylltu â thïm y Ganolfan.
Hidlydd