Dr Thomas Massey

Dr Thomas Massey

Arweinydd Arbenigol ar gyfer Anhwylderau Niwrolegol

Mae Dr Thomas Massey yn gymrawd clinigol academaidd ym maes Niwroleg yn yr Ysgol Feddygaeth.

Mae ei ddiddordeb ymchwil yn ymwneud â phathogenesis moleciwlaidd clefyd Huntington ac anhwylderau ehangu ailadroddol eraill. Mae niwroddirywiad cynyddol yn nodwedd o fwyafrif y cyflyrau hyn, ac nid oes yna driniaeth sy’n addasu’r clefyd ar gyfer unrhyw un ohonyn nhw ar hyn o bryd.

Nod cyffredinol y rhaglen ymchwil hon yw manteisio ar fewnwelediadau o geneteg ddynol, modelau celloedd a biocemeg i nodi targedau therapiwtig newydd sy’n gallu torri ar draws nifer o anhwylderau ehangu ailadroddol.

Fel Niwrolegydd, mae Thomas yn gweld cleifion yn y clinig a bu a wnelo’n helaeth â threialon clinigol ym maes clefyd Huntington. Mae’n gobeithio y byddwn ni, trwy ddeall manylion moleciwlaidd anhwylderau ehangu ailadroddol, yn gallu datblygu triniaethau newydd sydd â’r potensial i arafu neu atal y clefydau hyn nad oes gwella ohonyn nhw.

Mae Gwarantwyr yr Ymennydd, Academi’r Gwyddorau Meddygol, y Cyngor Ymchwil Feddygol (Cymrodoriaeth hyfforddiant ymchwil ôl-ddoethurol), Cymdeithas Niwrolegwyr Prydain (Cymrodoriaeth Ymddiriedolaeth Elusennol Patrick Berthoud), Ymddiriedolaeth Ymchwil yr Ymennydd a Rhwydwaith Clefyd Huntington Ewrop yn cefnogi ei waith.


Yn y newyddion:  

Astudiaethau Clefyd Niwronau Motor yng Nghymru yn gobeithio gwneud gwahaniaeth (Mehefin 2022)

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)

Contact Thomas

Email