Dewch i gwrdd â meddyg teulu o Gwm Rhondda sy’n brwydro yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau â data iechyd
Mae Dr Harry Ahmed, 41, yn feddyg teulu a hefyd yn ymchwilydd. Pan nad yw’n trin cleifion yng Nghanolfan Gofal Brys Cwm Rhondda, mae’n Uwch Ddarlithydd Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn cydarwain ymchwil i heintiau ac ymwrthedd i wrthfiotigau yng Nghanolfan PRIME Cymru.
Mae Harry wedi derbyn Cymrodoriaeth Uwch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru/ y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) ar gyfer ei ymchwil sy’n dadansoddi data cofnodion iechyd i gefnogi rhagnodi gwrthfiotigau’n fwy diogel. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig a’i ddau o blant.
Rhywbeth gwahanol bob dydd
“Be’ dwi’n mwynhau am fod yn feddyg teulu ydy eich bod chi’n gwneud rhywbeth gwahanol bob dydd ac mae yna gyfle i weithio mewn llawer o feysydd, fel ymchwil. Dwi wedi bod yn gweithio ar dreial PANORAMIC yn ddiweddar yn edrych ar driniaeth wrthfeirol COVID-19 newydd y mae pobl yn gallu mynd â hi adref i’w canlyn. Dwi’n arwain tîm o feddygon teulu sy’n ffonio cleifion i gael gwybod sut y maen nhw’n teimlo ar y feddyginiaeth wrthfeirol. Y peth gwych am y treial yma ydy nad oes angen i gleifion ddod i’r ysbyty i gymryd rhan mewn ymchwil arloesol gan ei fod i gyd yn digwydd gartref.
“Cafodd fy niddordeb mewn ymchwil ei sbarduno yn ystod fy hyfforddiant meddyg teulu yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful. Roedd yr ysbyty’n rhoi meddyginiaeth diabetes newydd ar brawf a gwnaeth hyn ddangos bod ymchwil yn allweddol i ddod o hyd i ffyrdd gwell o ofalu am gleifion. Mi benderfynais fy mod i eisiau cyfuno fy hyfforddiant meddyg teulu â rhyw fath o hyfforddiant ymchwil a dwi wedi parhau i wneud gwaith meddyg teulu ac ymchwil byth ers hynny.”
Heriau mawr
“Dwi wrthi’n ymchwilio i sut rydyn ni’n rhagnodi gwrthfiotigau ar hyn o bryd. Mae ymwrthedd i wrthfiotigau yn broblem enfawr ac mae’n achosi heriau mawr. Mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o drin heintiau ond eto cadw’r gwrthfiotigau sydd gennon ni ar ôl. Mae meddygon teulu’n chwarae rôl bwysig yn hyn beth, gan fod y mwyafrif o bobl sydd â symptomau haint yn gweld eu meddyg teulu’n gyntaf, a meddygon teulu sy’n rhagnodi tua 75% o’r holl wrthfiotigau. Mae angen gwell profion diagnostig arnon ni, a gwell dealltwriaeth o fuddion a niweidiau gwahanol wrthfiotigau.
“Mae fy ymchwil i’n wahanol i’r treialon clinigol y mae’r cyhoedd o bosibl wedi arfer clywed amdanyn nhw yn ystod y pandemig gan ei bod yn galw’n bennaf am ddadansoddi data iechyd mawr, dienw. Mae prosiect diweddar yn edrych i weld a ydy cleifion â heintiau wrinol yng Nghymru yn mynd ymlaen i gael trawiad ar y galon. Rydyn ni’n gwybod bod heintiau fel y fliw yn gallu achosi straen mawr ar y corff ac, mewn rhai cleifion, mae’n gallu sbarduno trawiad ar y galon neu strôc, ond dydyn ni ddim yn gwybod a ydy’r un peth yn wir am heintiau wrinol. Ochr yn ochr â chydweithwyr penigamp o Gaerdydd ac Abertawe, rydyn ni’n defnyddio data cofnodion iechyd o Fanc Data SAIL, sy’n cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, i ddod o hyd i’r ateb. Mi fyddwn ni’n edrych ar ddata labordy, sy’n dweud wrthon ni os ydy claf wedi cael haint, ac yna ar ddata ysbyty i weld a ydy’r claf hwnnw yna’n mynd i’r ysbyty â thrawiad ar y galon.”
Rhan orau fy swydd
“Y cymysgedd o waith clinigol ac ymchwil ydy’r rhan orau o’m swydd. Dwi’n gallu gweld cleifion, siarad trwy eu problemau, a gofyn iddyn nhw pa ymchwil fyddai’n bwysig iddyn nhw. Mae cleifion yn aml yn gofyn cwestiynau sy’n gwneud i mi feddwl tybed a oes angen mwy o ymchwil. Er enghraifft, mae pobl yn aml eisiau gwybod beth ydy’r driniaeth orau, neu ba mor debygol ydy sgil-effaith, neu beth y mae diagnosis newydd yn ei olygu iddyn nhw. Dydy atebion i’r cwestiynau yma ddim bob amser yn glir ac mae helpu cleifion i ddod o hyd i atebion yn aml yn arwain at syniadau newydd am ymchwil. Daeth y syniad ar gyfer fy astudiaeth gyntaf oddi wrth glaf hŷn a oedd wedi cael nifer o heintiau wrinol a driniwyd â gwrthfiotigau ac a aeth yna ymlaen i ddatblygu haint a oedd yn ymwrthod gwrthfiotigau.
“Mae data iechyd yn ein helpu i ateb cwestiynau sy’n berthnasol i boblogaeth Cymru. Yn fy astudiaeth ymchwil gyntaf, gwnes i ddefnyddio data oddi wrth fwy na miliwn o bobl. Mae’r data yma’n caniatáu i ni ateb cwestiynau hanfodol ynglŷn ag iechyd a gofal cymdeithasol heb i bobl orfod teithio’n bell neu roi o’u hamser i gymryd rhan. Maen nhw wedi rhannu eu data yn ddiogel ac yn ddienw, sy’n ein helpu ni i wella ein ffordd o ofalu amdanyn nhw a’u hanwyliaid yn y dyfodol.”
Dysgwch fwy am y bobl y tu ôl i'r ymchwil ac am sut y mae ymchwil yng Nghymru wedi newid bywydau
I gael y newyddion diweddaraf am ymchwil yng Nghymru yn syth i’ch mewnflwch, cofrestrwch i dderbyn ein bwletin wythnosol.