Galwad Newydd ar Agor: Cynllun Dysgu a Datblygu Cefnogi a Chyflenwi Diwygiedig 2023
23 Chwefror
Mae ceisiadau ar gyfer Cynllun Dysgu a Datblygu 2023 bellach ar gau
Mewn ymateb i adborth oddi wrth staff Cefnogi a Chyflenwi, mae’r Cynllun Dysgu a Datblygu wedi ehangu ei feini prawf cymhwysedd i gynnwys yr holl gyfleoedd hyfforddi a datblygu proffesiynol sy’n gysylltiedig â rôl.
Mae’r mathau o gyrsiau y gellir eu hariannu’n cynnwys cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig, cyrsiau Arweinyddiaeth a Rheolaeth, ac unrhyw gyrsiau eraill yr ystyrir eu bod yn berthnasol ac yn briodol i staff Cefnogi a Chyflenwi. Caiff y rhain eu rhannu i dair ffrwd sy’n cwmpasu cyrsiau ar lefel meistr, cyrsiau Datblygu Proffesiynol y mae Prifysgol De Cymru’n eu darparu ac unrhyw hyfforddiant arbenigol arall sy’n gysylltiedig â rôl. Gellir gweld rhagor o wybodaeth yn y canllawiau.
Caiff y cyrsiau Datblygu Proffesiynol eu darparu gan Brifysgol De Cymru, sydd wedi cytuno i gynnal sesiynau gwybodaeth ddydd Gwener 17 Chwefror i staff sy’n ystyried ymgeisio am un o’r cyrsiau. Bydd y sesiynau hyn yn gyfle ichi ddysgu mwy am gynnwys a gofynion y cwrs a gofyn unrhyw gwestiynau i sicrhau ei fod yn addas i’ch anghenion chi. A fyddech cystal â llenwi’r ffurflen gofrestru hon i gofrestru i fynychu’r sesiwn wybodaeth.
Hefyd, mae datblygiad cyffrous yn golygu bod staff sy’n ymgeisio i ymgymryd â gradd meistr mewn Ymchwil, neu hyfforddiant ymchwil cyfwerth â lefel meistr mewn iechyd a gofal cymdeithasol cymhwysol, yn cael cyfle i ymgeisio am amser 0.2wte tan ddiwedd eu cwrs i’w cefnogi i gwblhau eu hastudiaethau.
Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn derbyn aelodaeth o Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru fel mater o drefn.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau wedi’u cwblhau ydy dydd Gwener 10 Mawrth am 5pm.
Canllawiau a chyflwyno curriculum vitae.