Three women discussing research at a table

Cynlluniau gwobrau personol y Gyfadran Iechyd a Gofal Cymru bellach ar agor

22 Awst

Mae'n bleser gan y Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyhoeddi bod y gwobrau personol canlynol ar agor:

  • Dyfarniad Ymchwilydd sy’n Datblygu
  • Dyfarniad Cyflymydd Personol
  • Dyfarniad Datblygu Treialon

Bwriad y dyfarniadau personol hyn yw hybu gyrfaoedd ymchwil ar gyfer ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Maent yn cynnig amser gwarchodedig i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil datblygiadol ac yn caniatáu ar gyfer costau nad ydynt yn staff (megis teithio a chynhaliaeth, costau cynnwys y cyhoedd, offer TG). Datblygwyd y cynlluniau i ddarparu cefnogaeth hyblyg a chynhwysol i ymchwilwyr ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd ymchwil.

Agorodd y ffenestr ymgeisio ar 5 Medi 2024 ac mae'n cau am 16:00 ddydd Iau 10 Hydref 2024.

Dyfarniad Ymchwilydd sy’n Datblygu

Datblygwyd y dyfarniad hwn i hwyluso dilyniant ymchwilwyr canol gyrfa wrth iddynt bontio a symud ymlaen i gam nesaf eu gyrfa ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n cynnig amser gwarchodedig i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil datblygiadol gan gynnwys ffurfio damcaniaeth, nodi a blaenoriaethu cwestiynau ymchwil a chynnig ymchwil a gwaith datblygu grantiau. Mae'r cynllun yn darparu cefnogaeth hyblyg a chynhwysol i ymchwilwyr yng nghyfnod canol eu gyrfaoedd ymchwil.

Mae dyfarniad y Cynllun Ymchwilydd sy’n Datblygu wedi bod yn hynod werthfawr o ran rhoi amser a chymorth i mi archwilio syniadau a chynlluniau ymchwil ym maes iechyd digidol ac anawsterau iechyd meddwl/cymorth wrth bontio o fywyd plentyn i fywyd oedolyn. Mae’n pontio o fy nghymrodoriaeth ddiweddar i’r cam nesaf yn fy ngyrfa academaidd glinigol.” Dr Rhys Bevan Jones, Uwch Gymrawd Ymchwil Clinigol, Prifysgol Caerdydd

Cymorthfeydd Cynllun Ymchwilydd sy’n Datblygu

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y Cynllun Ymchwilydd sy’n Datblygu, gofynnwch i’r tîm yn un o’r cymorthfeydd:

  • Dydd Mawrth, 10 Medi 10:00 – 11:00
  • Dydd Llun, 23 Medi 14:30 – 15:30

I archebu lle mewn cymhorthfa, e-bostiwch y tîm

Dyfarniad Cyflymydd Personol

Mae hwn yn gynllun sy'n seiliedig ar garfan a fydd yn cefnogi grŵp bach o ymchwilwyr i ddatblygu ceisiadau dyfarniad personol cystadleuol i gyllidwyr perthnasol y DU gan gynnwys, ar gamau doethuriaeth ac uwch, ac sy'n agored i ymgeiswyr o'r Gwledydd Datganoledig, yn ogystal â chyllidwyr elusennol mawr. Bydd y dyfarniad hwn yn darparu cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio ac interniaethau a fydd yn gwella'r tebygolrwydd o lwyddo yn y cynllun ariannu arfaethedig. Bydd deiliaid dyfarniadau yn gallu cael mynediad at gymorth methodolegol sy'n cyd-fynd â datblygu'r ceisiadau hyn.

Mae’r Dyfarniad wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fy ngyrfa ymchwil. Yn gyntaf ac yn bennaf, rhoddodd amser gwarchodedig i mi feddwl am ymchwil. Mae’n golygu cael yr amser hwnnw ar gyfer mentora, y gefnogaeth honno, y gefnogaeth unigol yr wyf wedi’i chael gan aelodau eraill y Gyfadran a fy mentor ymchwil. Mae wir wedi helpu fy hyder yn fawr a nawr mae gen i nod, dwi'n gwybod beth i'w wneud nesaf." Dr Sushmita Mohapatra, Therapydd Ymgynghorol ar gyfer Strôc, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cymorthfeydd Dyfarniad Cyflymydd Personol

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y Dyfarniad Cyflymydd Personol, gofynnwch i’r tîm yn un o’r cymorthfeydd:

  • Dydd Mawrth, 10 Medi 10:00 – 11:00
  • Dydd Llun, 23 Medi 14:30 – 15:30

I archebu eich lle mewn cymhorthfa, e-bostiwch y tîm

Dyfarniad Datblygu Treialon

Mae hwn yn ddyfarniad personol sydd â'r bwriad o gefnogi ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio tuag at arwain (neu gyd-arwain) hap dreial a ariennir o ansawdd uchel a chydag effaith uchel mewn iechyd a/neu ofal cymdeithasol ac a fyddai'n elwa o hyfforddiant pellach o fewn Uned Treial Clinigol gofrestredig. Amcan y cynllun yn y pen draw yw i ddeiliaid dyfarniadau ddatblygu ac arwain treialon effaith uchel sy'n newid ymarfer yn y dyfodol fel Prif Ymchwilydd. Mae'r cynllun yn cynnig amser gwarchodedig i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil datblygiadol ac fe'i datblygwyd i ddarparu cefnogaeth hyblyg a chynhwysol i ymchwilwyr ar unrhyw gam yn eu gyrfaoedd ymchwil, ond sydd bellach yn barod i wneud ceisiadau am gyllid ar gyfer treialon y byddent yn Brif Ymchwilydd neu'n Gyd Brif Ymchwilydd arnynt.

Mae’r Dyfarniad hwn yn cynnig cyfle unigryw i ymchwilwyr sy’n barod i arwain eu treial hapsamplu eu hunain. Rhoddir amser a chefnogaeth i ddeiliaid dyfarniadau weithio gydag uned dreialon gofrestredig i droi eu syniad ymchwil yn gais treial cyllidadwy. Mae’r cynllun yn cyfuno mentora a chymorth ymarferol i wella arbenigedd treialon yng Nghymru. Gwnewch gais am gyfle i gryfhau eich sgiliau a datblygu eich gwaith.” Claire O’Neill, Cynghorydd Datblygu Ymchwilwyr, Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Cymorthfeydd Dyfarniad Datblygu Treialon

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y Dyfarniad Datblygu Treialon, gofynnwch i’r tîm yn un o’r cymorthfeydd:

  • Dydd Mercher, 11 Medi 10:00 – 11:00
  • Dydd Mawrth, 24 Medi 14:00 – 15:00

I archebu eich lle mewn cymhorthfa, e-bostiwch y tîm