Dyfarniad Cyflymydd Personol
Pwrpas
Mae'r cynllun hwn yn rhaglen sy'n seiliedig ar garfan gyda'r bwriad o gefnogi ceisiadau dyfarniad personol cystadleuol i gyllidwyr perthnasol y DU gan gynnwys Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI). Er enghraifft, cynllun Partneriaethau Ymchwil Academaidd Clinigol (CARP) neu'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) y Cyngor Ymchwil Feddygol, yn ogystal â chyllidwyr elusennol mawr fel Cancer Research UK, British Heart Foundation a’r Wellcome Trust.
Ar gyfer pwy
Mae’r cynllun hwn wedi’i anelu at staff Sefydliadau Addysg Uwch (SAU), staff y GIG neu staff gofal cymdeithasol sydd â chontract anrhydeddus gyda’u Sefydliad Addysg Uwch perthnasol. Bydd angen i ymgeiswyr SAU gyfiawnhau’n glir yr angen am gostau cyflog o ystyried eu contract cyflogaeth parhaol yn y sector SAU.
Cyllid ar gael
Gellir gofyn am gostau cyflog ar gyfer 0.2 Cyfwerth ag Amser Cyflawn (WTE) am uchafswm o chwe mis, ond gyda chyfiawnhad priodol, ystyrir hyd hirach o gymorth (hyd at flwyddyn).
Pryd
Mae hwn yn gynllun blynyddol gyda galwadau'n agor ym mis Medi bob blwyddyn. Mae'r alwad nesaf wedi'i threfnu ar gyfer mis Medi 2024.
Cymorthfeydd Dyfarniad Cyflymydd Personol
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y Dyfarniad Cyflymydd Personol, gofynnwch i’r tîm yn un o’r cymorthfeydd:
- Dydd Mawrth, 10 Medi 10:00 – 11:00
- Dydd Llun, 23 Medi 14:30 – 15:30
I archebu eich lle mewn cymhorthfa, e-bostiwch y tîm
Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, o 17 Hydref 2024, yn trosglwyddo i ddefnyddio System Rheoli Dyfarniadau newydd a'r ymgeiswyr ar gyfer y Cymrodoriaethau Uwch a Doethurol nesaf fydd y grŵp cyntaf i ddefnyddio'r system newydd hon.
O fis Hydref 2024 ymlaen, bydd y Gyfadran yn gweinyddu'r holl alwadau newydd gan ddefnyddio'r System Rheoli Dyfarniadau a bydd yn dechrau symud rheolaeth holl ddyfarniadau personol presennol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i'r system hon o fis Ionawr 2025.
Rydym yn rhagweld y bydd y System Rheoli Dyfarniadau newydd yn hwyluso prosesau mwy effeithlon ar gyfer y Gyfadran a fydd o fudd i'n hymgeiswyr a'n haelodau ac yn ein helpu i wella'r gefnogaeth i ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y system newydd, cysylltwch â thîm y Gyfadran a fydd yn hapus iawn i helpu.