Alan Woodall headshot.

Dychwelyd i ymchwil i helpu pobl sydd ag afiechydon meddwl difrifol

22 Rhagfyr

I Dr Alan Woodall, Meddyg Teulu Arweiniol Clinigol mewn Iechyd ac Ymchwil Integredig ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, nid swydd yn unig oedd ymchwil, roedd yn angerdd. Ond am bron i ddau ddegawd, aeth bywyd a gyrfa ag ef i gyfeiriad gwahanol.  Fodd bynnag, diolch i Wobrau Amser Ymchwil y GIG, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae Dr Woodall wedi dychwelyd i ymchwil ac mae bellach yn gwneud gwahaniaeth mewn gofal i bobl sy'n cymryd cyffuriau gwrthseicotig. Rhoddodd hen Wobrau Amser Ymchwil y GIG, sydd bellach ar gael drwy gynlluniau ariannu amgen, amser wedi’i neilltuo'n benodol ar gyfer staff y GIG i weithio ar eu syniadau ymchwil a datblygu astudiaethau o ansawdd uchel.

Gyrfa gynnar

Dechreuodd Dr Woodall ei yrfa gyda gradd gwyddoniaeth a PhD mewn biocemeg.  Roedd hyd yn oed yn gweithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol California, Berkeley.  Pan ddychwelodd i'r DU, cynhaliodd Dr Woodall ymchwil arloesol i effaith gwaharddiadau ysmygu ar iechyd.  Cyhoeddwyd ei waith yn y British Medical Journal, a oedd yn dangos sut y byddai gwaharddiad ysmygu rhannol mewn gwirionedd yn ehangu anghydraddoldebau iechyd, yn enwedig mewn cymunedau tlotach. Dylanwadodd yr astudiaeth ar bolisi'r llywodraeth gan arwain at weithredu'r gwaharddiad cynhwysfawr ar ysmygu yng Nghymru a Lloegr yn 2007. Dywedodd:

"Y gwaith hwnnw oedd y darn olaf o ymchwil wnes i, cyn dod yn feddyg teulu." 

Nid oedd bywyd academaidd traddodiadol yn addas iddo felly newidiodd Dr Woodall i feddygaeth a daeth yn feddyg teulu yng nghefn gwlad yr Alban.  Dywedodd:

"Rwy'n awtistig ac rwy'n gweld dinasoedd prysur a labordai gorlawn yn llethol.

"Am flynyddoedd, roeddwn i'n meddwl bod fy nyddiau ymchwil y tu ôl i mi." 

 

Dod o hyd i'w ffordd yn ôl i ymchwil

Yn ystod pandemig COVID-19, sylwodd Dr Woodall ar batrymau pryderus ymhlith cleifion oedd â salwch meddwl difrifol, yn enwedig effeithiau corfforol hirdymor meddyginiaethau gwrthseicotig, gan y gall defnydd hirfaith gynyddu'r risg o glefyd y galon.

Fe wnaeth sgwrs gyda chydweithiwr ei annog i ddychwelyd i ymchwil, a gyda'u cefnogaeth gwnaeth gais am gyllid Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a ddyfarnwyd iddo yn 2022.  Dywedodd Dr Woodall:

"Roedd y Wobr Amser Ymchwil wedi newid fy mywyd. Rhoddodd amser i mi ganolbwyntio ar ymchwil eto, ar ôl bron i 20 mlynedd i ffwrdd.

Nid dim ond ariannu fy ymchwil wnaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - fe wnaethant roi fy ngyrfa yn ôl i mi. Rwy'n falch o ddangos yr hyn y gall ymchwilwyr awtistig ei gyflawni ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn."

Cael effaith

Ers derbyn y wobr, mae Dr Woodall wedi gweithio ar sawl prosiect.  Fel y soniwyd o'r blaen, mae un o'i astudiaethau'n edrych ar sut mae meddyginiaethau gwrthseicotig yn cael eu rheoli mewn gofal sylfaenol. Bydd y canfyddiadau hyn yn helpu i wella gofal i gleifion sy'n byw gyda salwch meddwl difrifol ac yn lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio meddyginiaeth yn yr hirdymor.

Mae hefyd yn rhan o'r prosiect DynAIRx (sef Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer optimeiddio presgripsiynu deinamig ac integreiddio gofal mewn amlforbidrwydd), sy'n anelu at ddatblygu offer deallusrwydd artiffisial (DA) newydd, hawdd eu defnyddio, i gefnogi meddygon teulu a fferyllwyr i ddod o hyd i gyfuniad gwell o feddyginiaethau i'w presgripsiynu i gleifion sydd â chyflyrau iechyd lluosog. Dywedodd Dr Woodall:

"Mae gan y gwaith hwn y potensial i helpu hyd at 14 miliwn o gleifion ledled y DU sydd â chyflyrau iechyd hirdymor lluosog."

Edrych i'r dyfodol

Mae Dr Woodall yn parhau i rannu ei amser rhwng gwaith clinigol ym Mhowys a'i ymchwil.  Mae hefyd yn angerddol am effaith ehangach ymchwil.  Dywedodd:

"Fel meddyg teulu, dwi'n gallu helpu rhai cannoedd o gleifion y flwyddyn.  Trwy ymchwil, gallaf wneud gwahaniaeth i ddegau o filoedd - neu fwy."

Gall y gefnogaeth gywir helpu pobl nid yn unig i ddychwelyd i ymchwil ond i ffynnu a newid bywydau yn y broses.  Mae Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cynnig cefnogaeth a mentoriaeth helaeth i ymchwilwyr.  I ddysgu mwy am sut y gallwch gael mynediad at adnoddau'r Coleg, edrychwch ar gyllid a gwobrau'r Gyfadran.