Ydych chi wedi cael triniaeth ar gyfer canser?
Helpwch ymchwilwyr i ddatblygu astudiaethau canser newydd trwy rannu eich safbwynt gwerthfawr.
Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
Bydd angen:
- profiad o driniaeth ar gyfer canser, naill ai fel claf neu ofalwr
- gallu darllen dogfennau ar gyfer cyfarfodydd
- bod yn gyfarwydd â chynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd neu ar bwyllgor
- profiad o weithio fel rhan o dîm
- bod yn ddefnyddiwr TG cymwys ar gyfer trin dogfennau, mynychu cyfarfodydd Teams ac ar gyfer anfon negeseuon e-bost achlysurol
Mwy o wybodaeth
Mae Pwyllgor Llywio Treial yn goruchwylio treialon clinigol trwy sicrhau eu bod yn dilyn gweithdrefnau, monitro cynnydd a gwneud argymhellion am y treial.
Byddwch yn ymuno â'r grŵp llywio fel aelod o’r cyhoedd ac yn mynychu dau gyfarfod bob blwyddyn i roi eich adborth ar yr astudiaethau fel rhywun sydd â phrofiad bywyd o driniaethau canser fel claf neu ofalwr.
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
Bydd angen i chi fynychu dau gyfarfod rhithwir y flwyddyn, ym mis Mehefin a mis Rhagfyr a bydd pob cyfarfod yn para hyd at dair awr.
Cyn y cyfarfodydd, bydd angen i chi ddarllen y dogfennau, y cynigion a'r adroddiadau, ac weithiau bydd angen i chi ateb ymholiadau e-bost.
Pa mor hir fydd fy angen?
Bydd eich angen am o leiaf 2 flynedd.
Beth yw rhai o'r buddion i mi?
Buddion i chi :
- Cyfrannu at lunio treialon clinigol mewn triniaethau canser
- Ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol a sefydliadau o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys ysbytai, prifysgolion a labordai
Bydd ein tîm yn:
- Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
- Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.
Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Byddwch yn derbyn mentora pwrpasol gan aelod profiadol o'r tîm Cleifion a Chynnwys y Cyhoedd a chefnogaeth barhaus gan staff Canolfan Treialon Ymchwil.
Sut ydw i'n ymgeisio?
Os gwelwch yn dda cwblhewch y ffurflen isod.
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Canolfan Treialon Ymchwil, Prifysgol Caerdydd (CTR)
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn
Cysylltwch â'r tîm