Ydych chi wedi cael triniaeth ar gyfer canser?

Helpwch ymchwilwyr i ddatblygu astudiaethau canser newydd trwy rannu eich safbwynt gwerthfawr.

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?

Bydd angen:

  • profiad o driniaeth ar gyfer canser, naill ai fel claf neu ofalwr
  • gallu darllen dogfennau ar gyfer cyfarfodydd
  • bod yn gyfarwydd â chynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd neu ar bwyllgor
  • profiad o weithio fel rhan o dîm
  • bod yn ddefnyddiwr TG cymwys ar gyfer trin dogfennau, mynychu cyfarfodydd Teams ac ar gyfer anfon negeseuon e-bost achlysurol

Mwy o wybodaeth

Mae Pwyllgor Llywio Treial yn goruchwylio treialon clinigol trwy sicrhau eu bod yn dilyn gweithdrefnau, monitro cynnydd a gwneud argymhellion am y treial.

Byddwch yn ymuno â'r grŵp llywio fel aelod o’r cyhoedd ac yn mynychu dau gyfarfod bob blwyddyn i roi eich adborth ar yr astudiaethau fel rhywun sydd â phrofiad bywyd o driniaethau canser fel claf neu ofalwr.

Beth fydd gofyn i mi ei wneud?

Bydd angen i chi fynychu dau gyfarfod rhithwir y flwyddyn, ym mis Mehefin a mis Rhagfyr a bydd pob cyfarfod yn para hyd at dair awr.

Cyn y cyfarfodydd, bydd angen i chi ddarllen y dogfennau, y cynigion a'r adroddiadau, ac weithiau bydd angen i chi ateb ymholiadau e-bost.

Pa mor hir fydd fy angen?

Bydd eich angen am o leiaf 2 flynedd.

Beth yw rhai o'r buddion i mi?

Buddion i chi :

  • Cyfrannu at lunio treialon clinigol mewn triniaethau canser
  • Ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol a sefydliadau o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys ysbytai, prifysgolion a labordai

Bydd ein tîm yn: 

  • Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
  • Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).

Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.

Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.

Pa gefnogaeth sydd ar gael?

Byddwch yn derbyn mentora pwrpasol gan aelod profiadol o'r tîm Cleifion a Chynnwys y Cyhoedd a chefnogaeth barhaus gan staff Canolfan Treialon Ymchwil. 

Sut ydw i'n ymgeisio?

Os gwelwch yn dda cwblhewch y ffurflen isod.

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Ar-lein

Sefydliad Lletyol:
Canolfan Treialon Ymchwil, Prifysgol Caerdydd (CTR)

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn

Cysylltwch â'r tîm

Ffurflen mynegi diddordeb

Sut wnaethoch chi glywed am y cyfle hwn?
Os cyfryngau cymdeithasol, pa sianel?
Rydw i wedi darllen a chytuno i’r cytundeb cynnwys y cyhoedd
Datganiad GDPR

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg:Rydw i’n cytuno