Ydych chi eisiau helpu i wella cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?

Helpwch i lunio arolwg hygyrch a fydd yn archwilio profiad a boddhad pobl sy'n cymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn datblygu arolwg a fydd yn cael ei ddefnyddio'n lleol ac yn genedlaethol i wella'r profiad ymchwil i bawb sy'n cymryd rhan.

Byddwch yn helpu i lunio'r arolwg a sicrhau ei fod yn glir, yn hygyrch ac yn ystyrlon. Mae hwn yn gyfle i fynegi eich barn a dylanwadu ar sut mae pobl sy’n cymryd rhan mewn ymchwil yn cael eu trin a'u deall.

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol arnoch, ond byddai'r canlynol yn ddefnyddiol:

  • Rydych wedi cymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil
  • Gallwch roi adborth gonest, meddylgar
  • Diddordeb mewn gofal iechyd, ymchwil, neu wella profiad cleifion
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
  • Bod mewn dau gyfarfod ar-lein (1 awr yr un) a threulio awr yn paratoi ar gyfer pob un
  • Adolygu a rhoi sylwadau ar gwestiynau'r arolwg
  • Helpu i wella sut mae’r cwestiynau wedi’u geirio a'u deall
Pa mor hir y bydd fy angen?
  • Pythefnos - Bydd eich angen chi am bedair awr dros bythefnos – mae hyn yn cynnwys amser cyfarfod a pharatoi. Bydd dyddiad y cyfarfodydd yn cael ei benderfynu ar ôl dewis. 
Beth yw rhai o 'r manteision i mi?
  • Cael effaith wirioneddol ar yr arolwg a sicrhau ei fod yn hawdd ei ddefnyddio
  • Datblygu eich sgiliau a dysgu am y broses datblygu ymchwil
  • Bod yn rhan o dîm cyfeillgar a chynhwysol
Pa gymorth sy'n cael ei gynnig?
  • Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
  • Cyfle i ofyn cwestiynau i'r ymchwilydd yn unigol ac fel rhan o grŵp ffocws

Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn. 

Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth Helpu ag Ymchwil.

Llenwch y ffurflen isod

Sut wnaethoch chi glywed am y cyfle hwn?
Os cyfryngau cymdeithasol, pa sianel?
Rydw i wedi darllen a chytuno i’r cytundeb cynnwys y cyhoedd
Datganiad GDPR

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg:Rydw i’n cytuno

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Ar-lein

Sefydliad Lletyol:
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn

Cysylltwch â'r tîm