Graham Moore

Yr Athro Graham Moore: mentora'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil yng Nghymru

17 Mehefin

"Mae’n rhoi gymaint o foddhad i mi weld rhywun yr ydw i wedi'i fentora yn sicrhau ei grant mawr cyntaf ag ydyw o gael un fy hun, os nad mwy." – Yr Athro Graham Moore

Mae'r Athro Graham Moore erbyn hyn yn ei ail dymor fel Uwch Arweinydd Ymchwil ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae'n Gyfarwyddwr newydd y Ganolfan Datblygu, Gwerthuso, Cymhlethdod a Gweithredu er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer). Yn y rolau arwain hyn, mae bellach yn canolbwyntio mwy nag erioed ar ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr.

Ar hyd ei yrfa, mae Graham wedi cyfuno ymrwymiad i ymchwil sy'n berthnasol i bolisi gydag arloesedd methodolegol, gan wneud gwahaniaeth gweladwy i fywydau pobl yng Nghymru a’r tu hwnt.

Ers ymuno ag Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yn 2005, mae wedi gweithio ar werthusiadau o ymyriadau iechyd cyhoeddus sy'n parhau i gael eu defnyddio yng Nghymru hyd heddiw, gan gynnwys y Fenter Brecwast am Ddim i Ysgolion Cynradd, y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff a deddfwriaeth arloesol gweithleoedd di-fwg y wlad.

Roedd ei brosiect cychwynnol, hap-dreial o raglen brecwast am ddim i holl blant ysgol gynradd, yn arwyddocaol i gyfeiriad gyrfa Graham. Dywedodd:

"Roeddwn i wedi fy nghyfareddu gan y cwestiwn a allai polisi fel hwn leihau anghydraddoldebau.

"Fel mae’n digwydd, fe allai."

Nawr, flynyddoedd yn ddiweddarach, mae ei blant ei hun yn elwa ar un fenter y gwnaeth ef helpu i'w gwerthuso, gan greu cylch cyflawn.

Yn ystod y degawd diwethaf, mae Graham wedi cefnogi'n weithredol rwydwaith o ymchwilwyr gyrfa gynnar a chanol gyrfa i sefydlu eu rhaglenni gwaith annibynnol eu hunain.

Yn eu plith mae Dr Jemma Hawkins a Dr Kelly Morgan, dau ymchwilydd a sicrhaodd, gyda mentora Graham, gyllid sylweddol i arwain astudiaethau iechyd cyhoeddus effeithiol, gan gynnwys Dyfarniad Ymchwil Iechyd Iechyd a Gofal Cymru.

Dywedodd Dr Jemma Hawkins, Darllenydd, DECIPHer, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol:

"Y Dyfarniad Ymchwil Iechyd oedd fy nyfarniad ariannu llwyddiannus gyntaf fel ymgeisydd arweiniol. Roedd yr astudiaeth a ariennir yn hap-dreial peilot dan reolaeth yn ymchwilio i ddefnydd monitorau gweithgaredd digidol o fewn Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru. Roedd strwythur y dyfarniad, gyda Graham fel prif gyd-ymgeisydd mewn rôl fentora, yn rhan ganolog o fy nghefnogi i ddatblygu'r cais ac wrth gyflwyno'r astudiaeth. Roedd hefyd yn allweddol yn fy helpu i sefydlu fy annibyniaeth fel arweinydd ymchwil. Wrth i fy ngyrfa ymchwil ddatblygu, cefais gyfle i ddilyn yn ôl troed Graham, gan ddod yn brif gyd-ymgeisydd a mentor ar gyfer cais llwyddiannus Dr Kelly Morgan am Ddyfarniad Ymchwil Iechyd dair blynedd yn ddiweddarach."

Dywedodd Dr Kelly Morgan, Uwch Gymrawd Ymchwil, DECIPHer, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol:

"Gyda chefnogaeth a mentora Graham, roeddwn i'n ffodus i sicrhau dau ddyfarniad a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - Cymrodoriaeth Iechyd a Dyfarniad Ymchwil Iechyd. Roedd y Dyfarniad Ymchwil Iechyd yn canolbwyntio ar ymyrraeth cyfoedion wrth fod yn esiampl da mewn ysgolion gyda'r nod o gynyddu gweithgarwch corfforol ymhlith merched 9-11 oed (yr astudiaeth CHARMING). Mae cefnogaeth barhaus Graham wedi bod yn allweddol i fy ngalluogi, ers hynny, i fentora cydweithiwr ar eu Cymrodoriaeth Ymchwil Gofal Cymdeithasol (ers 2022) ac i sicrhau Dyfarniad Arweinwyr sy'n Dod i'r Amlwg Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn llwyddiannus."

Ychwanegodd Graham:

"Mae gweld pobl yr ydych chi wedi'u mentora yn sicrhau grantiau mawr, datblygu timau a llunio'r agenda ymchwil yn hynod werthfawr." 

Mae ei ailbenodiad fel Uwch Arweinydd Ymchwil yn gyfle gwych i barhau i fentora'r don nesaf o dalent ymchwil. Ochr yn ochr â dyfarniad diweddaraf Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru o £2.9 miliwn DECIPHer y mae Graham a'i dîm wedi’i sicrhau, y cynllun yw i gydgrynhoi meysydd cryfder presennol, megis iechyd meddwl, deiet a gweithgarwch corfforol a defnyddio sylweddau, gan ddatblygu ymchwil mewn meysydd sy’n fwy newydd, megis cysylltiadau rhwng newid hinsawdd ac iechyd y cyhoedd.

"Rydyn ni wedi datblygu tîm gwych yma ac rydw i eisiau parhau i greu cyfleoedd i eraill arwain, dysgu a llwyddo. 

"Dyna sut yr ydyn ni'n gwneud ymchwil yn gynaliadwy, a dyna sut yr ydyn ni'n gwneud gwahaniaeth i Gymru."

Mae Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn chwilio am fentoriaid i gefnogi Cynllun Mentora’r Gyfadran, a all ddarparu gwahanol brofiadau a safbwyntiau ar gyfer mentoreion a allai fod yn wynebu heriau ar hyd eu llwybr gyrfa. Llenwch ffurflen proffil mentor y Gyfadran gan helpu Graham i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr yng Nghymru.