Mentor yn trafod ymchwil gyda mentorai

Ydych chi'n ymchwilydd profiadol a allai rannu eich gwybodaeth a'ch profiadau?

12 Mawrth

Oes gennych chi brofiadau a allai fod o fudd i ymchwilwyr sydd ar gam cynharach ar eu llwybr gyrfa na chi?

Allwch chi helpu eraill i wynebu heriau yr ydych chi wedi'u goresgyn?

Mae Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn chwilio am Fentoriaid i gefnogi ail garfan Cynllun Mentora'r Gyfadran. 

Fel Mentor Cyfadran byddwch yn:

  • Cael eich paru yn ffurfiol â'r bobl y byddwch yn eu mentora i alluogi'r cyfuniad gorau o barau mentora.
  • Cael y cyfle i gymryd rhan mewn cyfres o drafodaethau cefnogol, sy'n canolbwyntio ar amcanion, gyda’r bobl y byddwch yn eu mentora mewn meysydd lle mae gennych fwy o brofiad a byddwch yn gweithredu fel arweinydd ac ymgynghorydd.
  • Cael mynediad at gyfleoedd cymorth a hyfforddiant i berffeithio'ch sgiliau mentora a chael cefnogaeth gan gymheiriaid drwy gydol y rhaglen.

Byddem wir yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth fel mentor yn y dyfodol.

Llenwch y ffurflen proffil Mentor Cyfadran fel y gall y tîm eich paru â rhywun addas i’w fentora.