
"Gallai data fod yn allweddol" i wella gofal cymdeithasol i oedolion
4 Gorffennaf
Mae menter i roi golwg well o ddata ar ofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru wedi ei lansio.
Mae'r Labordy Data Cysylltiol Gofal Cymdeithasol (Labordy GOFAL), dan arweiniad ein canolfan a ariennir, y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE), wedi derbyn £1,441,577 o gyllid gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR).
Y prosiect hwn fydd y cyntaf yn y DU i gysylltu setiau data arferol ar wasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion â ffynonellau gwybodaeth eraill, megis gofal iechyd, gofal cymdeithasol plant a chyfrifiad 2021.
Bydd yn defnyddio data dienw, a gedwir yn ddiogel, sydd ar gael drwy ein canolfan a ariennir, Banc Data SAIL, amgylchedd ymchwil dibynadwy cenedlaethol Cymru.
Bydd Labordy GOFAL yn darparu'r darlun llawn o bwy sy'n cael gofal cymdeithasol ledled Cymru, gyda'r nod yn y pen draw o lywio polisi a gwella gwasanaethau yng Nghymru ac ar draws y DU.
Bydd yr Uwch Arweinydd Ymchwil, yr Athro Jonathan Scourfield (CARE) a Dr Fiona Lugg-Widger o'n canolfan a ariennir Ymchwil Treialon yn cyd-arwain y prosiect, mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr ac arbenigwyr polisi o CASCADE, Prifysgol Abertawe, Ysgol Economeg Llundain, Gofal Cymdeithasol Cymru, Llywodraeth Cymru ac Anabledd Cymru.
Dywedodd yr Athro Scourfield: "Mae llawer iawn o ddata arferol yn cael ei gasglu mewn gwasanaethau cyhoeddus. Er enghraifft, bob tro y mae gennym apwyntiad ysbyty neu ymweliad â gweithiwr cymdeithasol, mae cofnod yn cael ei gadw gan y GIG neu'r awdurdod lleol. Mewn gofal cymdeithasol, mae'r data hwn yn cael ei danddefnyddio, a gellid dysgu cymaint trwy ddod â’r cyfan at ei gilydd.
“Mae'r sector gofal cymdeithasol yn wynebu llawer o heriau, a gallai gwell defnydd o ddata fod yn allweddol i wella gwasanaethau.”
Ychwanegodd Dr Lugg-Widger: "Trwy gysylltu setiau data o wahanol wasanaethau cyhoeddus – fel cofnodion meddygon teulu a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, bydd ein tîm ymchwil yn chwilio am batrymau a thueddiadau a allai lywio sut mae unigolion yn cael gofal. Yn bwysig, gellir gwneud hyn yn ddiogel ac yn gyfrifol, gan ddiogelu preifatrwydd unigolion.”
Bydd cyfweliadau â staff gofal cymdeithasol, pobl sy'n derbyn gofal a chefnogaeth, a gofalwyr teuluol hefyd yn cael eu cynnal i geisio deall y patrymau a ddarganfuwyd gan ymchwilwyr.
Bydd Grŵp Profiad Byw yn cwrdd bob tri mis trwy gydol y prosiect. Bydd hyn yn cael ei arwain gan berson anabl sydd â phrofiad o gael mynediad at ofal cymdeithasol a bydd yn cynnwys ystod amrywiol o aelodau. Bydd pobl o'r grŵp hwn yn cael cyfle i helpu gyda dadansoddi data ymchwil os dymunant.
Ychwanegodd yr Athro Jonathan Scourfield: "Yn ogystal â darparu darlun cadarn trwy ddata, mae'n hanfodol ein bod yn cynnwys profiadau pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o'r system gofal cymdeithasol i oedolion. Bydd eu lleisiau yn allweddol i lunio ein blaenoriaethau a'n nodau yn ystod y prosiect pwysig hwn.”
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y newyddion ymchwil iechyd a gofal, tanysgrifiwch i dderbyn ein bwletin wythnosol.