Yr Athro Carolyn Wallace
Cyfarwyddwe
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Cynllun Ysgoloriaeth ar gyfer Doethuriaeth mewn Gofal Cymdeithasol (Hydref 2021-Medi 2024)
Teitl y prosiect: Developing a Training Package for Link Workers in Wales using a Realist Approach.
Carolyn yw Cyfarwyddwr Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru (WSSPR) sy’n gweithio’n agos â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Ysgol rithwir ar gyfer Cymru gyfan yw WSSPR, â’r nod o ddatblygu methodoleg gwerthuso rhagnodi cymdeithasol, gan adeiladu ar y gwaith a gwblhawyd yn flaenorol gan Rwydwaith Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru (WSPRN). Mae hyn yn ychwanegol at themâu rhyngddisgyblaethol arall sef addysg, gwerth cymdeithasol a llesiant. Mae aelodaeth yr ysgol yn cynnwys cydweithwyr o’r byd academaidd, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a’r cyhoedd. Mae WSSPR hefyd yn sail i gylch diddordeb rhagnodi cymdeithasol Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru (rhwydwaith byd-eang Prifysgolion y Cenhedloedd Unedig).
Dros y blynyddoedd, mae Carolyn wedi datblygu arbenigedd mewn ymchwil dulliau cymysg ansoddol a chymhwysol gan gynnwys mapio cysyniadau grŵp, dulliau consensws, ac adolygu a gwerthuso realaidd. Nyrs yw Carolyn â thros 20 mlynedd o brofiad gweithio mewn rolau ymarfer a rheoli. Ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Age Cymru Gwent.
Yn y newyddion:
Defnyddio presgripsiynu cymdeithasol i wneud newidiadau cadarnhaol i iechyd a lles (Mai 2023)
Dyfarnu bron i £6.5 miliwn i ymchwil achub bywyd yng Nghymru (Hydref 2021)