Yr Athro Jane Noyes
Uwch Arweinydd Ymchwil
Mae Jane Noyes, D.Phil., MSc., yn Athro Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Plant yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor, y DU.
Mae Jane yn Gadeirydd Rhaglen Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd ac yn Gyd-Gadeirydd y panel ariannu Iechyd yng Nghymru. Bu’n aelod o banel ariannu COVID-19 yr NIHR ac yn adolygu ceisiadau COVID-19 ar ran MRC y DU a’r Swistir. Mae Jane yn aelod o’r Weithrediaeth sy’n rheoli’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth ac Uned Ymchwil Arennol Cymru.
Mae’n gyn Gyd-Gadeirydd ac nawr yn aelod o Weithrediaeth Dulliau Cochrane, yn aelod o Bwyllgor Gwyddonol Cochrane, yn Gynullydd Arweiniol Grŵp Dulliau Ansoddol a Dulliau Gweithredu Cochrane ac yn Olygydd y Journal of Advanced Nursing.
Mae’n fethodolegydd, yn adolygydd systematig ac yn ymchwilydd sylfaenol â diddordeb penodol mewn ymyriadau cymdeithasol cymhleth.
Yn y newyddion:
Faculty Learning and Development Day (Ebrill 2023)
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)
Gweminar Grant Gofal Cymdeithasol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (Medi 2021)
Cymru’n arwain y ffordd o ran rhoi organau (Gorffennaf 2018)