Debra a Suzanne, nyrsys ymchwil ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Nyrsys ymchwil COVID-19 yn annog y cyhoedd i gymryd rhan mewn astudiaethau yn y dyfodol ar Ddiwrnod Rhyngwladol Treialon Clinigol 2021

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Treialon Clinigol (20 Mai) mae dwy nyrs ymchwil yn Abertawe yn edrych yn ôl dros flwyddyn brysur o ymchwil COVID-19 ac yn annog aelodau’r cyhoedd i gymryd rhan mewn ymchwil yn y dyfodol.

Mae Debra Evans a Suzanne Richards, sy'n gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, wedi bod yn angerddol am wyddoniaeth erioed.

Dywedodd Debra “Dechreuais fy ngyrfa nyrsio mewn gofal critigol dros 15 mlynedd yn ôl ac mae ymchwil wedi fy rhyfeddu ers hynny ac rwyf i bob amser wedi chwilio am gyfleoedd i roi ymchwil ar waith. Pan ddaeth y cyfle i mi fod yn nyrs ymchwil a newidiais i, roedd yn berffaith i mi. Rwyf i wrth fy modd.”

Dywedodd Suzanne: “Rwy’n sicr wedi ffeindio fy lle i yn y swydd hon. Yn ystod y pandemig hwn rydym yn clywed o hyd sut y dylem ni ymddiried mewn gwyddoniaeth i ddod o hyd i'r ffordd allan ac rwy’n gallu uniaethu yn wirioneddol â'r neges yna. Rwyf i wedi teimlo erioed y gallwch chi ddibynnu ar wyddoniaeth i roi atebion."

Ym mis Mai y llynedd, ar ôl treulio wythnosau yn y rheng flaen o ofalu am gleifion â coronafeirws mewn uned gofal dwys, darganfu Debra a Suzanne y byddai astudiaeth brechlyn COVID-19 yn cael ei chyflwyno yng Nghymru.

Er y byddai'n golygu eu bod yn gyrru dwy awr i Gasnewydd a nôl i weithio sifftiau 12 awr, roedden nhw’n gyffro i gyd i fod yn rhan o dîm Cymru a fyddai'n cyflwyno treial brechlyn Rhydychen/AstraZeneca.

Bod yn rhan o rywbeth hanesyddol

Dywedodd Suzanne: “Roedd gweithio ar astudiaeth brechlyn Rhydychen/ AstraZeneca yn teimlo fel bod yn rhan o rywbeth gwirioneddol hanesyddol. Rwy'n credu bod pawb sy'n gweithio arno yn teimlo’r un ffordd. Roedd yn gymaint o ymdrech dîm enfawr ac roedd ymdeimlad gwirioneddol o gyfeillgarwch. Roeddem yn gwybod y byddai'n torri tir newydd.”

Dywedodd Debra: “Daeth llawer o staff y GIG allan o ymddeoliad neu cawson nhw eu hadleoli o feysydd eraill i gefnogi ymchwil COVID-19. Roedd yn anhygoel cydweithio â phobl o bob rhan o Gymru ar yr astudiaethau iechyd cyhoeddus brys hyn. Roeddem yn gwybod y byddai'r canlyniadau o fudd i gynifer o bobl. Mewn blynyddoedd i ddod byddaf yn gallu dweud yr oeddwn i’n rhan o'r ymdrech ymchwil fawr hon yng Nghymru yn ystod y pandemig."
 
Yn ogystal â gweithio ar y treial brechlyn, cyflawnodd Debra a Suzanne ymchwil glinigol hefyd i opsiynau triniaeth effeithiol i bobl â COVID-19. Mae un o'r astudiaethau platfform parhaus y buont yn gweithio arni, RECOVERY, wedi recriwtio 1,250 o bobl yng Nghymru hyd yma ac wedi darganfod y gallai dau gyffur cyffredin dexamethasone a tocilizumab achub bywydau'r rhai sy'n ddifrifol wael gyda COVID-19.

Dywedodd Debra: “Roedd gweithio ar yr astudiaethau hyn yn flinderus yn gorfforol ac yn emosiynol. Fodd bynnag, roedd brys gwirioneddol i'r hyn roeddem ni’n ei wneud oherwydd roeddem yn gwybod y gallai'r ymchwil hon fod o fudd i'r cleifion hyn ar unwaith. Roedd y treialon hyn yn mynd i ddarganfod pa driniaethau oedd yn gweithio orau i guro'r feirws ac achub y mwyaf o fywydau.”

Ym mis Ebrill, enillodd Debra a Suzanne ar y cyd Wobr Cymru'n Un Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru am eu gwaith hanfodol yn cyflwyno ymchwil COVID-19, i gydnabod eu hymroddiad i ddarparu ymchwil a gweithio ar draws ffiniau sefydliadol.

Rhoi rhywbeth yn ôl

Recriwtiwyd dros 36,000 o bobl yng Nghymru i 114 o astudiaethau ymchwil COVID-19 hyd yma yn ystod y pandemig parhaus hwn. Arweiniodd y garreg filltir anhygoel hon at ddatblygu nifer o frechlynnau a darganfod triniaethau, diagnosisau a phrofion newydd ar gyfer y feirws.  

Dywedodd Suzanne: "Yn y sgyrsiau a gefais, dywedodd pobl eu bod wedi gwirfoddoli i fod yn rhan o astudiaethau COVID-19 oherwydd eu bod yn dymuno rhoi rhywbeth yn ôl. 

“Yn arbennig, dywedodd pobl a gymerodd ran mewn astudiaethau brechlynnau eu bod yn dymuno gwneud beth bynnag y gallent i helpu eraill a oedd yn sâl gyda'r clefyd. Roedd hynny'n braf ei glywed a chlywais lawer o hynny. Mae gennym ni driniaethau mor effeithiol ar gyfer COVID-19 o ganlyniad i aelodau'r cyhoedd a gymerodd ran yn yr astudiaethau hyn.”

Yr her nesaf

Dywedodd Debra: “Mae'r cyhoedd yn sicr wedi dod yn fwy agored i ymchwil yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae pobl yn gofyn mwy o gwestiynau i mi ac mae'n ymddangos bod ganddyn nhw fwy o ddiddordeb mewn bod yn rhan o'r astudiaethau.

“Byddaf yn parhau i siarad am bopeth rydym wedi'i gyflawni yn ystod y pandemig hwn oherwydd ymchwil yw'r rheswm pam ein bod ni’n curo COVID-19. Ond nid dim ond mewn pandemig y mae'n digwydd, mae'n digwydd drwy'r amser ac mae pobl sy'n gwirfoddoli i gymryd rhan yn allweddol. 

“Mae llawer o bethau bach rydym yn eu gwneud bob dydd wedi’u seilio ar ymchwil, fel cymryd paracetamol ar gyfer eich cur pen. Rydym yn gwneud hynny oherwydd bod ymchwil yn dweud ei fod yn gweithio.”

Dywedodd Suzanne: “Pan fydd bywyd yn dechrau mynd yn ôl i'r arfer, yr her nesaf fydd cadw diddordeb pobl gan fod ymchwil i driniaethau newydd yn bwysig trwy’r amser.

“Mae pawb wedi gweld y manteision enfawr y gall ymchwil eu cynnig a'i photensial i newid ac achub bywydau. Gobeithio mai’r well ymwybyddiaeth honno o bwysigrwydd ymchwil fydd etifeddiaeth y pandemig hwn."

Bod yn rhan o ymchwil

Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Treialon Clinigol, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn hyrwyddo cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn ymchwil. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol, ewch i Be Part of Research.

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer ein e-bost wythnosol a fydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y newyddion a'r cyfleoedd ymchwil diweddaraf.


Clywch gan Debra


Clywch gan Suzanne


Cyhoeddwyd gyntaf: 19 Mai 2021