Penaneth Cydweithfa Ymchwil I Faterion Iechyd (HDRC)
Dyma gyfle cyffrous i arwain y gwaith o sefydlu Cydweithfa Ymchwil i Faterion Iechyd (HDRC) newydd yn y Cyngor, a fydd yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd trwy gasglu tystiolaeth yn seiliedig ar ymchwil yn ymwneud â phenderfynyddion ehangach sy’n effeithio ar iechyd. Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal ac Iechyd (NIHR) i sefydlu’r Gydweithfa Ymchwil i Faterion Iechyd (HDRC) newydd ac arloesol.
Bydd Pennaeth y Gydweithfa Ymchwil i Faterion Iechyd yn gweithio gyda thimau ar draws y Cyngor, Prifysgol De Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB), partneriaid yn y trydydd sector a'r gymuned.
Bydd deiliad y swydd yn goruchwylio, cynllunio, trefnu a chyfleu’r gwaith o sefydlu rhaglenni HDRC, a’u swyddogaethau parhaus yn Nhorfaen, gan sicrhau bod gofynion adrodd NIHR yn cael eu bodloni. Byddant yn cydlynu ac yn cefnogi'r timau amlddisgyblaethol o fewn y gydweithfa.
REQ004681