Ydych chi'n berson ifanc â diabetes math 1 neu a oes diabetes math 1 ar eich plentyn?

Gallech ddefnyddio eich profiadau i helpu ymchwilwyr i ddatblygu astudiaeth ymyrraeth ymchwil sy'n archwilio atal bwyta afreolus mewn gofal diabetes pediatrig.

Pwy sy’n cael cymryd rhan?

Pobl sy'n byw yng Nghymru:

  • sydd wedi byw gyda diabetes math 1 fel person ifanc
  • sydd â phlentyn sy'n byw gyda diabetes math 1
  • profiad o fwyta afreolus a diabetes math 1
  • yn byw yng Nghymru
  • yn gyfforddus wrth rannu eu profiadau o fyw gyda diabetes a bwyta afreolus gyda'r tîm astudio ac aelodau eraill o’r cyhoeddus

Mae tîm yr astudiaeth yn croesawu ffurflenni mynegi diddordeb gan unigolion a chymunedau yr ydym yn clywed ganddynt yn llai aml, felly byddem yn croesawu ceisiadau gan grwpiau lleiafrifoedd ethnig a grwpiau na chaiff eu gwasanaethu'n ddigonol.

Mae angen i chi fod wedi cofrestru â’r gymuned gynhwysol i gyflwyno datganiad o ddiddordeb. Gwahoddir aelodau’r cyhoedd sydd heb gofrestru i lenwi ffurflen gofrestru i ddod yn rhan o’r gymuned gynhwysol.

Gwybodaeth Gefndir

Gall byw gyda diabetes math 1 gael effaith ar les corfforol a meddyliol unigolyn a gallai arwain at risg uwch o ddatblygu anhwylder bwyta. Gallai hyn fod am sawl rheswm, fel monitro pwysau a lefelau siwgr yn aml, gan ganolbwyntio ar gymeriant bwyd neu'r rhagdybiaethau negyddol ynghylch diabetes.

Byddai ymchwilwyr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a meddygon o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn hoffi cael cyfraniad gan 'arbenigwyr trwy brofiad' i ddatblygu astudiaeth sy'n canolbwyntio ar atal bwyta afreolus o ran diabetes math 1.

Bydd y tîm yn addasu triniaethau sydd eisoes yn bodoli ar gyfer bwyta afreolus ac yn edrych ar ba mor addas ydyn nhw i bobl ifanc sy'n byw gyda diabetes math 1.

Beth sydd ei angen?

Hyd at bump o bobl i ddod yn rhan o grŵp cynghori cyhoeddus. Rydym yn gofyn i chi gyfrannu at drafodaethau a rhannu meddyliau, syniadau a myfyrdodau gyda'r ymchwilwyr am yr astudiaeth.

Byddai gofyn i chi fynychu tri gweithdy, dwy awr o hyd, wyneb yn wyneb. Bydd pob sesiwn yn dechrau gyda chyflwyniad byr a byddai'r cyfranogwyr wedyn yn trafod ac yn rhoi adborth ar bob pwnc.


Sesiwn un: Adborth o'r ymchwil gynnar ac adolygu'r ymyriadau sydd ar gael
Sesiwn dau: Adolygu cynnwys a’r ychwanegiadau/gwelliannau sydd eu hangen
Sesiwn tri: Adolygu’r gwerthuso.

Pa dâl sydd ar gael am gymryd rhan?

Bydd tîm yr astudiaeth yn:

  • Talu costau teithio rhesymol i fynychu cyfarfodydd.
  • Yn cynnig tâl am amser o hyd at £25.00 (gall pobl ofyn am lai os ydyn nhw’n derbyn budd-daliadau’r wladwriaeth).

I’r rheini sy’n cael budd-daliadau’r wladwriaeth, mae cyngor cyfrinachol ar gael trwy’r Gwasanaeth Cyngor Ynghylch Budd-daliadau ar gyfer Cymryd Rhan.

Fel aelod cofrestredig o’r gymuned, fe fydd cefnogaeth y tîm Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chynnwys a rhaglen hyfforddiant Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd ar gael i chi. 

Pa gefnogaeth arall sydd ar gael?

Cewch eich cefnogi gan dîm yr astudiaeth a byddant yn rhoi arweiniad  i chi am yr astudiaeth a'r hyn sydd ei angen gennych chi.

Gan fod siarad am ddiabetes math 1 a bwyta afreolus yn gallu peri gofid, bydd pob aelod yn cael ei gyfeirio at ei dimau meddygol ac elusennau/gwasanaethau cymorth priodol i gael rhagor o wybodaeth. 

Sut ydw i’n cofrestru fy niddordeb?

Llenwch ffurflen mynegi diddordeb

Ydych chi'n ansicr ynghylch sut i lenwi ffurflen mynegi diddordeb neu a hoffech chi drafod cyfle ymhellach? Yna gall y tîm eich helpu. Llenwch y ffurflen ar-lein neu cysylltwch â ni trwy e-bost i ddechrau sgwrs.

Mae mynediad at ffurflenni mynegi diddordeb yn ddiogel ac wedi’i gyfyngu, ac yn cael ei drin yn gyfrinachol.

Y Camau Nesaf

Mae’r tîm Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chynnwys yn hysbysebu’r cyfle hwn ar ran arweinydd y cyfle (ymchwilydd a/neu weithiwr proffesiynol arall) i ddod o hyd i aelodau o’r cyhoedd i’w cynnwys yn eu gwaith.  

Fe fyddwn ni’n adolygu’r ffurflenni myegi diddordeb ac yn anfon rhai priodol at arweinydd y cyfle (ymchwilydd a/neu weithiwr proffesiynol arall).

Fe fydd naill ai’r tîm neu arweinydd y cyfle (ymchwilydd a/neu weithiwr proffesiynol arall) yn cysylltu â chi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi anfon e-bost atom neu ffonio 02920 230457.

Categori cyfle:
gwyrdd

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Bydd cyfarfodydd yn digwydd wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd

Sefydliad Lletyol:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Submit Expression of Interest