Oes gennych chi brofiad o ganser y pen a'r gwddf fel claf neu ofalwr?

Mae ymchwilwyr yn chwilio am unigolion i roi adborth ar astudiaeth i helpu i wella triniaeth canser y pen a'r gwddf.

Mae ymchwilwyr yn y Ganolfan Meddygaeth Canser Arbrofol ym Mhrifysgol Caerdydd yn chwilio am bobl sydd â phrofiad bywyd i roi adborth gwerthfawr ar dreial clinigol i helpu i wella profiad cleifion yn y dyfodol.

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
  • Profiad o ganser y pen a'r gwddf fel claf neu ofalwr
  • Parodrwydd i rannu meddyliau a phrofiadau mewn trafodaeth grŵp
  • Deall profiad cleifion, gan gynnwys llwybrau triniaeth a gofal
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?

Bydd gofyn i chi adolygu dogfen yn amlinellu crynodeb yr astudiaeth a chymryd rhan mewn trafodaeth grŵp ffocws ar-lein 1.5 awr.

Am faint fydd fy angen i?

Mae hwn yn ymrwymiad untro a bydd eich angen am ryw 2.5 awr (1 awr ar gyfer adolygu dogfennau a chyfarfod ar-lein 1.5 awr).

Beth yw rhai o'r buddion i mi?
  • Y cyfle i ddylanwadu ar ymchwil canser a gwella profiadau cleifion
  • Mynediad at adnoddau hyfforddi Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd os oes ddiddordeb gennych chi
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd y treial a sut mae’ch cyfraniad wedi llywio'r ymchwil
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
  • Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
  • Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
  • Person cyswllt penodedig ar gyfer unrhyw gwestiynau
  • Bydd arweinydd Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd lleyg profiadol yn bresennol yn ystod y grŵp ffocws i gynnig cefnogaeth
  • Cyfeirio at adnoddau hyfforddi Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd perthnasol
  • Costau teithio rhesymol a chostau gofalwr/gofal plant ychwanegol wedi'u talu os yn berthnasol

Darllenwch ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn. 

Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.

Llenwch y ffurflen isod

Sut wnaethoch chi glywed am y cyfle hwn?
Os cyfryngau cymdeithasol, pa sianel?
Rydw i wedi darllen a chytuno i’r cytundeb cynnwys y cyhoedd
Datganiad GDPR

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg:Rydw i’n cytuno

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Ar-lein

Sefydliad Lletyol:
Canolfan Meddygaeth Canser Arbrofol (ECMC), Prifysgol Caerdydd

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn

Cysylltwch â'r tîm