Rob Jones

Dr Jones

Arweinydd Arbenigol ar Ganser

Rob yw’r Arweinydd Arbenigol ar Ganser yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac mae’n Arweinydd Treialon Cam 1 yng Nghymru. Enillodd ei radd yn Ysgol Feddygol Prifysgol Rhydychen yn 1995, ac enillodd ei Ddoethuriaeth o Goleg Prifysgol Llundain. Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant oncoleg feddygol yn Beatson, Glasgow, cafodd swydd fel Gwyddonydd Clinigol yn Cancer Research UK yn 2005. Daeth i Gaerdydd yn 2009, gan sefydlu treialon am y tro cyntaf ar fodau dynol yn 2011, gan arwain y gwaith o recriwtio ar draws y byd. Gan ddechrau o ddim, mae wedi creu’r unig uned sy’n cynnig treialon canser cam 1 yng Nghymru, gan arwain ar achosion busnes a grantiau allanol gwerth dros £8 miliwn.

Bu’n Brif Ymchwilydd ar dros 30 o dreialon cyfnod cynnar a bu’n Ymchwilydd Cydlynol y DU ar bedwar treial masnachol rhyngwladol. Ef yw’r Prif Ymchwilydd ar ddau dreial wedi’u harwain gan ymchwilwyr gan Gynghrair Cyfuniadau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd gan gynnwys arloesi drwy’r byd â threial canser y fron dan y teitl ‘Fulvestrant plus capivasertib versus placebo after relapse or progression on an aromatase inhibitor in metastatic, oestrogen receptor-positive breast cancer’ (FAKTION), sydd wedi ei gyhoeddi’n ddiweddar yn Lancet Ocology.

 

Cysylltwch â Rob

E-bost

Ffôn: 02920 316206