Yr Athro Monica Busse
Uwch Arweinwyr Ymchwil
Mae’r Athro Monica Busse yn ffisiotherapydd siartredig, yn fethodolegydd treialon ac yn Gyfarwyddwr ar gyfer Treialon y Meddwl, yr Ymennydd a Niwrowyddorau yn y Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd gradd israddedig Monica mewn Ffisiotherapi. Mae ganddi gymwysterau ôl-raddedig pellach mewn Gwyddorau Biofeddygol (Ergonomeg) a Biomecaneg. Roedd ei PhD mewn Gwyddorau Symudiad Dynol a Niwroleg gyda llawer o’i hymchwil yn canolbwyntio ar amgylchedd niwroleg a niwrowyddoniaeth clinigol o ran ymchwil sy’n gysylltiedig ag iechyd a gofal.
Mae gan Monica ddiddordeb hirsefydlog mewn methodoleg ymchwil. Dyfarnwyd cymrodoriaeth ôl-ddoethurol NIHR/ Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru iddi yn 2013. Mae Monica’n defnyddio’r cyfle hwn i fwrw ymlaen â’i hyfforddiant ffurfiol mewn dulliau treialon a dyfarnwyd Diploma mewn Treialon Clinigol iddi gan LSHTM yn 2017.
Cwblhaodd Monica’r modiwlau craidd Hanfodion Treialon Clinigol, Adolygu ac Adrodd ar Dreialon Clinigol, Ystadegau Sylfaenol ar gyfer Treialon Clinigol a Threialon Clinigol ar Waith. Cwblhaodd fodiwlau uwch hefyd mewn Dyluniadau treialon, Dulliau ystadegol pellach mewn treialon clinigol, Materion rheoleiddiol, arfer clinigol da a moeseg a Monitro data a dadansoddi interim. Ochr yn ochr â hyn, cwblhaodd Gwrs Ymchwil Dulliau Ansoddol Prifysgol Rhydychen (20 credyd lefel-M), gan wella’i gallu a’i chymhwysedd wrth gynllunio gwerthusiadau manwl o brosesau fel rhan o dreialon ymyriadau cymhleth.
Mae gan Monica ddiddordeb penodol mewn datblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth ar draws y rhychwant oes a datblygu dealltwriaeth drylwyr o gydrannau ymyriadau (gan gynnwys y rheini sy’n benodol i dechnegau newid ymddygiad gweithgarwch corfforol) sydd ei hangen i ddarparu sail ar gyfer asesu deilliannau’n briodol mewn cyflyrau iechyd cymhleth ac ar draws amgylcheddau clinigol. Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae hi wedi bod yn ben ymchwilydd, ac yn dal i fod, mewn cyfres o astudiaethau arsylwadol ac ymyriadol aml-ganolfan yn ymwneud â gweithgarwch corfforol, hyfforddiant gwybyddol a symudedd mewn clefyd Huntington, llawer ohonyn nhw wedi darparu sail ar gyfer cyhoeddi’r canllawiau clinigol ffisiotherapi rhyngwladol cyntaf seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer clefyd Huntington. Mae Monica wedi cynnal astudiaethau’n edrych ar symudedd a chodymau mewn dystroffi’r cyhyrau, asesiadau o symudedd mewn sglerosis ymledol a rôl adborth niwral mewn pobl â chlefyd Parkinson lle y mae ei harbenigedd mewn mesur deilliannau a hyfforddiant corfforol yn llywio’r ffordd o gyflenwi ymyriad ac asesu symudedd. Mae ei harbenigedd mewn biomecaneg cymhwysol, asesu swyddogaethol a chlinigol a defnyddio technoleg i asesu gweithgarwch ar lefel y gymuned yn cael ei ddefnyddio mewn treialon clefydau prin (clefyd Huntington yn bennaf ond, yn fwy diweddar, yn estyn i amrywiaeth o glefydau niwrolegol prin) a defnyddio dyluniadau cymharol newydd, gan gynnwys treialon o fewn cohortau.
Mae Monica wedi ymrwymo ers talwm i gynnwys cleifion a’r cyhoedd a chydgynhyrchu mewn ymchwil, a sefydlodd BRAIN Involve, sef braich cynnwys y cyhoedd uned BRAIN Cymru. Mae ganddi gydweithrediadau ar waith gydag ymchwilwyr a chlinigwyr sy’n gweithio ar draws amrywiaeth o amgylcheddau gwasanaeth iechyd (er enghraifft ym meysydd orthopaedeg, gofal critigol ac anhwylder sbectrwm awtistiaeth)
Yn y newyddion:
Lansio cynlluniau gwobrwyo personol newydd drwy Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (Mehefin 2023)
Enwau’r rheini sydd wedi derbyn Dyfarniadau Amser Ymchwil GIG 2022 wedi’u cyhoeddi (Mawrth 2023)
Rolau Cynghorwyr Datblygu Ymchwil newydd i helpu i gyflawni mentrau datblygu ymchwilwyr (Chwefror 2023)
Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth 2023 (Chwefror 2023)
Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “un o’r mentrau pwysicaf y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi’i sefydlu” (Tachwedd 2022)
Astudiaeth newydd i gefnogi pobl sy'n byw gyda Covid hir wedi agor yng Nghymru (Tachwedd 2022)
Cydweithrediad Ewropeaidd gwerth £16 miliwn â nod o wella ansawdd bywyd pobl â chlefydau niwroddirywiol (Tachwedd 2022)
Penodi Cyfarwyddwr Cyfadran Newydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (Mai 2022)
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)
Mae ymchwilwyr o Gymru yn ymchwilio i Covid hir fel rhan o alwad cyllido gwerth £20 miliwn ledled y DU (Gorffennaf 2021)