Ydych chi neu aelod o'r teulu wedi cael wlser troed sydd wedi'i achosi gan ddiabetes?
Helpwch ymchwilwyr i wella atal ac iacháu wlserau troed diabetig.
Mae wlserau troed diabetig yn glwyfau gwael am wella sy'n effeithio ar 25% o bobl â diabetes. Mae llawer o bobl yn cael trafferth gyda wlserau rheolaidd, ac ychydig iawn o lwyddiant y mae’r triniaethau presennol yn ei gael.
Mae'r treial REDUCE yn edrych ar ffordd newydd o helpu pobl i newid arferion pwysig sy'n effeithio ar sut mae wlserau troed yn ffurfio ac yn gwella. Drwy rannu eich profiadau, gallech helpu i lunio'r ymchwil pwysig hwn a gwella triniaethau.
- Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
- â phrofiad o fyw gyda rhywun sydd ag wlser(au) troed diabetig neu’n gofalu amdanynt
- yn teimlo'n gyfforddus wrth fynychu cyfarfodydd a rhannu barn gydag aelodau eraill o'r cyhoedd ac ymchwilwyr
- Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
- Mynychu o leiaf tri chyfarfod ar-lein y flwyddyn (pob un yn para tua dwy awr) o leiaf bob pedwar mis
- Helpu i rannu'r canlyniadau
- Cymryd rhan mewn trafodaethau i wella'r treial a chefnogi aelodau newydd
- Pa mor hir fydd fy angen?
Gallwch gymryd rhan cyhyd ag y dymunwch, yn ddelfrydol nes cwblhau'r treial REDUCE.
- Beth yw rhai o'r buddion i mi?
- Hyfforddiant Perthnasol i Gynnwys y Cleifion a'r Cyhoedd mewn Ymchwil os oes angen
- Datblygu sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm
- Cyfrannu at ymchwil iechyd ystyrlon
- Bod yn rhan o gymuned gefnogol
- Pa gefnogaeth sydd ar gael?
- Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol
- Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
- Darparu mynediad i gwrs Cyflwyniad y GIG i Gynnwys y Cleifion a'r Cyhoedd mewn Ymchwil ar-lein
- System Cyfeillio i gefnogi aelodau newydd
- Cysylltiadau penodol o fewn y tîm ymchwil
Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.
Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.
Sut ydw i'n ymgeisio
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Ar-lein ac mewn person
Sefydliad Lletyol:
Prifysgol Caerdydd
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn
Cysylltwch â'r tîm