Dr Frank Sanders
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Cynllun Ymchwilydd sy'n Dod i'r Amlwg
Diddordeb Ymchwil: Ymchwil drosi - retinopathi diabetig
Bywgraffiad
Mae Frank Sanders yn hyfforddai offthalmoleg yng Nghymru, gyda diddordeb ymchwil mewn retinopathi diabetig (RD) a metabolaeth lipid mewn clefyd ociwlar.
Cwblhaodd Frank y rhaglen MBPhD ym Mhrifysgol Caergrawnt. Bu'n Ysgolor yng Ngholeg Magdalene, Caergrawnt ac fe'i hariannwyd drwy'r rhaglen Meddygaeth Drawsfudol a Therapiwteg (TMAT) a noddwyd gan GSK a’r Wellcome Trust. Cefnogodd y rhaglen TMAT radd PhD mewn biocemeg yn ymchwilio i driglyseridau lipogenesis de novo hepatig a'u cysylltiad â nifer o glefydau metabolaidd systemig. Hefyd bu’n addysgu hanfodion biocemeg a bioleg foleciwlaidd i israddedigion yng Ngholeg Magdalene.
Ers dechrau hyfforddiant arbenigol, mae wedi cwblhau amryw o brosiectau ymchwil gan gynnwys dadansoddi mesurau canlyniadau a adroddwyd gan gleifion mewn clefyd macwla. Ei nod yw cymhwyso ei sgiliau a'i wybodaeth a enillwyd yn y meysydd RD hyn i ddeall bioddangosyddion posibl yn well, cael mewnwelediadau mecanistig i bathoffisioleg RD a deall yr effaith yn y byd go iawn ar bobl â diabetes.
Darllen mwy am Frank and their worka’u gwaith:
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi’r rownd ddiweddaraf o ddyfarniadau personol