Dr Martin Scurr
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Dyfarniad Cymrodoriaeth Uwch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (2024 - 2029)
Teitl y prosiect: Enhanced immunological assessment of influenza vaccine efficacy in immunocompromised patients
Bywgraffiad
Mae ymchwil Dr Martin Scurr yn ymchwilio i ffyrdd newydd o fesur celloedd penodol y system imiwnedd o’r enw ‘celloedd T’. Bydd ei brosiect Cymrodoriaeth Uwch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ceisio creu prawf gwaed syml sy’n nodi ymatebion celloedd T a welir eisoes a/neu sy’n cael eu hysgogi gan frechlyn i’r ffliw tymhorol. Trwy ddiffinio cydberthnasau imiwnolegol amddiffyniad rhag haint ffliw difrifol, nod y prosiect yw nodi cleifion imiwnoataliedig sy’n wynebu’r risg fwyaf o glefyd difrifol.
Bydd y prosiect hwn hefyd yn galluogi cyrff iechyd cyhoeddus i wneud penderfyniadau polisi mwy gwybodus a gwneuthurwyr brechlyn i asesu imiwnogenedd brechlynnau ffliw tymhorol y genhedlaeth nesaf yn well.
Darllen mwy am Martin a’u gwaith:
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi’r rownd ddiweddaraf o ddyfarniadau cyllid i ymchwilwyr