Dr Savita Shanbhag
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Cynllun Ymchwilydd sy'n Dod i'r Amlwg (2024 - 2026)
Diddordebau Ymchwil: Develop impactful research projects in primary care, that make a real difference by leading to early diagnosis, improved outcomes and better patient experience.
Bywgraffiad
Mae Savita Shanbhag yn gweithio fel Arweinydd Canser Meddygon Teulu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae ei rôl yn cynnwys hyrwyddo diagnosis cynnar mewn cleifion â chanser a gwella cyfathrebu rhwng Gofal Sylfaenol ac Eilaidd, ar lefel bwrdd iechyd ac yn genedlaethol. Mae gan Savita brofiad o arwain a rheoli prosiectau ymchwil ac arloesi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sy’n cynnwys newidiadau i lwybrau canser. Mae hi wedi bod yn arweinydd neu’n gyd-ymchwilydd mewn amryw o brosiectau ymchwil ac arloesi. Mae’n cynrychioli safbwyntiau Gofal Sylfaenol ar lwybrau oncoleg yn y bwrdd iechyd a chyfarfodydd ledled Cymru, gan sicrhau bod y safbwyntiau hyn yn cael eu hintegreiddio mewn strategaethau gofal iechyd ehangach. Mae ei harweinyddiaeth a’i chyfraniadau wedi cael eu cydnabod gydag anrhydeddau, gan gynnwys Gwobr Arloesi Cymeradwyaeth Hywel ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn 2022.
Mae ei Dyfarniad Ymchwilydd Datblygol wedi ei helpu i gydweithio a rhwydweithio gyda chydweithwyr ymchwil. Mae’n gweithio gyda thimau academaidd yng Nghymru a Lloegr ar brosiectau ymchwil i gynorthwyo sgrinio canser a diagnosis cynnar o ganser y coluddyn.
Darllen mwy amSavita a’u gwaith:
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi’r rownd ddiweddaraf o ddyfarniadau cyllid i ymchwilwyr