Yr Athro Andrea Tales
Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Heneiddio Arloesol, a Cyfarwyddwr Sefydliad AWEN
Mae prif ddiddordebau ymchwil Andrea a’u cymhwysiad i fywyd go-iawn yn cynnwys:
- Gwella nodweddu clinigol namau gwybyddol ysgafn a goddrychol a phwysleisio pwysigrwydd gwahaniaethau unigol ac felly gofal iechyd a meddygaeth haenedig
- Nodweddu namau gwybyddol fasgwlaidd a dementia
- Defnyddio technoleg symudol a gwisgadwy i fonitro symudedd a chydbwysedd a swyddogaethau arall mewn unigolion sy’n byw â dementia
- Hybu’r defnydd o fethodoleg sy’n ‘ddilys ac yn berthnasol yn glinigol’ wrth astudio dementia ac anhwylderau cysylltiedig
- Astudiaeth o’r golwg a’r clyw gan ddefnyddio EEG a thechnegau delweddu’r ymennydd arall, wrth heneiddio’n iach, â nam gwybyddol, ac aetiolegau amrywiol dementia
- Perthynas ansawdd cwsg a gorbryder â nam gwybyddol ysgafn a goddrychol
Yn y newyddion:
Cysylltiad rhwng colli clyw a dementia (Ionawr 2023)
Beico i lawr lôn atgofion (Mehefin 2022)