Uwch Ymchwilydd Iechyd y Cyhoedd - Public Health Wales
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â’r Is-adran Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Uwch Ymchwilydd Iechyd y Cyhoedd. Mae'r rôl hon yn rhan o raglen ymchwil a ariennir gan NIHR ar gynhwysiant digidol ac anghydraddoldebau. Nodau'r prosiect yw datblygu teipoleg allgáu digidol; arfarnu’n feirniadol fentrau cynhwysiant digidol yng Nghymru a ledled y DU a nodi meysydd i’w gwerthuso yn y dyfodol er mwyn rhannu’r hyn a ddysgir ar gyfer systemau iechyd digidol, gan sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Gan ymuno â thîm rhyngddisgyblaethol, byddwch yn tynnu ar eich sgiliau cyfathrebu a chydweithio cryf i weithio'n effeithiol mewn tîm ar draws ffiniau sefydliadol. Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys cynnal adolygiad o ansawdd uchel o dystiolaeth adeiladu theori, a fydd yn gofyn am gyfuno data ansoddol a meintiol, er mwyn deall ysgogwyr allgáu digidol. Byddwch yn adeiladu rhwydwaith DU gyfan o randdeiliaid allweddol ar draws sefydliadau lluosog ac arbenigwyr unigol i nodi mentrau cynhwysiant digidol i'w gwerthuso yn y dyfodol.
028-AC074-0325