
Webinar Grant Gofal Cymdeithasol
Ymchwilwyr ac ymarferwyr gofal cymdeithasol sydd yn edrych am gyllid?
Nodwch y dyddiad ar gyfer webinar grant gofal cymdeithasol
- Ydych chi wedi bod yn meddwl ynghylch gwneud cais am arian ar gyfer ymchwil?
- Wedi meddwl o gwbl pa gefnogaeth y gallwch ei derbyn i ddatblygu cais o dan gynllun Grantiau Gofal Cymdeithasol Ymchwil Gofal Cymru?
- Wedi synnu pa faterion sydd yn aml yn peri rhwystr i ymgeiswyr, a dyfalu sut y gellir eu hosgoi?
- Wedi ystyried sut y gallai cynnal prosiect o dan y cynllun hwn fod yn fanteisiol i’ch gyrfa yn y tymor hir?
Bydd y cynllun Grant Gofal Cymdeithasol yn agor ar gyfer ceisiadau cam 1 ar Medi 1af (dyddiad cau fydd Hydref 21ain) ac rydym yn cynnig cyfle i ymchwilwyr dderbyn gwybodaeth gan ymchwilwyr eraill, cadeiryddion panelau, ac aelodau o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru mewn webinar yn ymdrïn â lansiad y cyfle newydd hwn.
Cynhelir webinar grantiau gofal cymdeithasol yn y prynhawn ar 6ed Medi 2021 (amser i’w gadarnhau).
Gallwch hefyd archebu lle mewn sesiwn unigol gyda’r tïm sydd yn rheoli’r ymgyrch ariannu hon, fel y gallwch drafod eich syniadau neu gael ateb i unrhyw gwestiynau fydd gennych.
Os ydych yn awyddus i fod yn bresennol yn y webinar, cofrestru eich diddordeb, neu archebu sesiwn unigol, e-bostiwch y tïm ac fe wnawn gysylltu â chwi gyda manylion pellach.
Cofrestru eich diddordeb, neu archebu sesiwn unigol, e-bostiwch y tïm