Research nurse helping older male participant complete a questionnaire on an ipad

"Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymchwil eleni"

Neges diwedd blwyddyn gan yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru   

Mae diwedd pob blwyddyn yn amser da i fyfyrio ar lwyddiannau’r 12 mis diwethaf, yn ogystal â’r heriau.  

Rydym ni yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ymfalchïo’n fawr yn y ffordd y chwaraeodd ymchwilwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol Cymru eu rhan lawn mewn ymchwil a newidiodd gwrs y pandemig COVID-19 ac sydd wedi parhau i weithio ar feysydd fel COVID-19 hir a chanlyniadau’r pandemig i wasanaethau iechyd a gofal, ac yn arbennig i grwpiau poblogaeth agored i niwed. 

Gofynnodd ein hymgyrch eleni, “Ble fydden ni heb ymchwil?” ac mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi dangos pa mor hanfodol yw ymchwil, nid yn unig i’n cymuned yng Nghymru, ond ledled y DU a ledled y byd.  

Yn 2022, trodd ein Canolfan Dystiolaeth COVID-19 y sgiliau a ddefnyddiwyd yn ystod anterth y pandemig tuag at helpu i ddatrys problemau iechyd a gofal cymdeithasol ehangach. Rydym wedi ailddechrau ymchwil hanfodol y bu’n rhaid ei ohirio wrth i ni ymateb i COVID-19. Lansiwyd ein Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru newydd, i wneud yn siŵr bod cyfleoedd i bobl ddewis, dilyn a datblygu gyrfaoedd ymchwil yn y dyfodol. 

Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymchwil eleni. O aelodau’r cyhoedd a gymerodd ran mewn astudiaethau neu weithgareddau ymgysylltu, i gynrychiolwyr cleifion, ein partneriaid addysg uwch, awdurdodau lleol ac, wrth gwrs, pawb sy’n gweithio’n ddiflino ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.  

Gyda dymuniadau gorau ar gyfer tymor y Nadolig ac edrych ymlaen at lawer o gyfleoedd a gweithgareddau cyffrous yn 2023.  

Kieran