Yr Athro Deb Fitzsimmons

Pam rydym i gyd angen ychydig o economeg iechyd yn ein bywydau, Yr Athro Deb Fitzsimmons - Gweminar

 

Yn y sesiwn hon, bydd yr Athro Deb Fitzsimmons yn eich cyflwyno i bwrpas ac egwyddorion sylfaenol economeg iechyd. Gan dynnu ar ei phrofiad ei hun, bydd yn cyflwyno pam mae economeg iechyd yn bwysig ac yn berthnasol i wneud dewisiadau anodd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a sut y gall economeg iechyd gefnogi cylch bywyd ymchwil a chynhyrchu tystiolaeth i bolisi ac ymarfer. Bydd yn amlinellu'r egwyddorion sylfaenol a ddefnyddiwn mewn economeg iechyd a gofal.

Gan ddefnyddio astudiaethau achos dethol, bydd Deb yn amlinellu rhai o'r ffyrdd rydym wedi cymhwyso'r meddylfryd hwn i gwestiynau ymchwil ar draws treialon ac astudiaethau clinigol. Bydd Deb yn gorffen drwy eich cyflwyno i Economeg Iechyd a Gofal Cymru a sut y gallant eich helpu.