Ydych chi neu anwylyn yn cael gofal yn y cartref?
Ymunwch â grŵp cynghori ymchwil i helpu i wella gofal yn y cartref ar gyfer grwpiau lleiafrifoedd ethnig.
Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
- Rydych chi neu rywun sy’n bwysig i chi yn cael cymorth gartref
- Rydych chi o ethnigrwydd du
- Rydych chi'n gyfforddus yn siarad ag eraill am eich profiadau a'ch syniadau
Mwy o wybodaeth
Mae gofalu am eraill gyda thosturi yn bwysig er mwyn sicrhau gwasanaethau diogel a phersonol. Er hynny, yn aml, nid yw’n cyrraedd y nod i grwpiau lleiafrifoedd ethnig oherwydd bod diffyg dealltwriaeth o ddiwylliannau gwahanol. Gall syniadau fel tosturi, urddas, annibyniaeth a dewis olygu gwahanol bethau i wahanol grwpiau ethnig.
Nod yr astudiaeth hon yw deall yn well sut mae'r grwpiau hyn yn ystyried tosturi, urddas ac annibyniaeth, fel y gallwn wella gofal cymdeithasol sy'n cynnwys pawb.
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
Fel rhan o'r grŵp cynghori, bydd gofyn i chi adolygu dogfennau a deunyddiau eraill i sicrhau bod popeth yn glir ac yn addas ar gyfer gwahanol ddiwylliannau.
Byddwch chi hefyd yn helpu i greu cwestiwn trafod defnyddiol ar gyfer sesiwn taflu syniadau yn ystod rhan o'r astudiaeth o'r enw Mapio Cysyniadau’r Grŵp.
Pa mor hir fydd fy angen?
Byddwch yn cwrdd â'r tîm am awr bob mis, cyfanswm o wyth gwaith dros gyfnod o 12 mis.
Beth yw rhai o'r buddion i mi?
Buddion i chi :
- bydd cael eich llais wedi’i glywed a’ch profiadau wedi’u cydnabod, yn arwain at ymdeimlad o rymuso wrth lywio cwrs yr astudiaeth.
- cyfle i ddylanwadu ar arferion gofal tosturiol mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol, a allai wella ansawdd y gofal a gânt.
Bydd ein tîm yn:
- Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
- Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
Edrychwch ar ein canllawiau gael mwy o wybodaeth am hyn.
Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Bydd aelod o'r tîm ymchwil yn eich cefnogi drwy gydol yr amser
Sut ydw i'n ymgeisio?
Llenwch y ffurflen ar-lein a dywedwch wrthym sut yr ydych chi'n bodloni’r profiad angenrheidiol.
Ansicr sut i lenwi'r ffurflen ar-lein neu hoffech drafod cyfle ymhellach?
Yna gall y tîm eich helpu, cysylltwch â ni trwy e-bost i drefnu sgwrs.
Mae mynediad at unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhannu â ni yn ddiogel, yn gyfyngedig ac yn cael ei thrin yn gyfrinachol.
Beth fydd yn digwydd nesaf.
Os yw eich cais yn cyd-fynd â'r profiad gofynnol, caiff ei anfon at arweinydd y prosiect.
Byddwn yn cysylltu â chi gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eich cais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bost neu ffoniwch 02920 230 457.
Categori cyfle:
gwyrdd
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Prifysgol De Cymru