Wyth ffordd y mae ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol wedi gwneud gwahaniaeth yn 2023
Mae ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi cyflawni rhai pethau anhygoel eleni. Wrth ffarwelio â 2023, ymunwch â ni i ddathlu rhywfaint o waith y gymuned ymchwil yng Nghymru.
Mae ymchwil gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth wedi dangos y gallai cysylltu data yr heddlu ar drais domestig a data iechyd helpu i leihau galwadau i'r heddlu a derbyniadau meddygol brys yn y dyfodol.
Canfu'r tîm mai derbyniadau gofal iechyd brys oedd y ffactor pwysicaf ar gyfer rhagweld y rhai a fydd yn cael eu cynnwys gan yr heddlu.
Wrth i bobl fynd yn hŷn, maen nhw'n fwy tebygol o ddioddef problemau iechyd fel canser, dementia a diabetes ac wrth i nifer y bobl sy'n byw gyda'r cyflyrau hyn gynyddu, felly hefyd y galw ar wasanaethau iechyd.
I helpu Llywodraeth Cymru i baratoi'r GIG a gwella gwasanaethau ar gyfer y dyfodol, eleni cwblhaodd Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ochr yn ochr ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, adolygiad o dystiolaeth ymchwil y rhagwelir y bydd cyflyrau iechyd hirdymor yn cynyddu yn y 10 mlynedd nesaf.
Gwyliwch Dr Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd, Llywodraeth Cymru yn trafod y gwaith hwn yng Nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2023.
Amddiffyn plant rhag camfanteisio troseddol
Fel rhan o'i hymchwil a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn 2023 bu Dr Nina Maxwell yn gweithio gyda phump o bobl ifanc ysbrydoledig i ddatblygu dwy ffilm yn archwilio effaith camfanteisio troseddol plant.
Canfu astudiaeth Dr Maxwell fod pobl ifanc eisiau clywed gan y rhai y gallent uniaethu â nhw, y rhai a oedd yn deall sut beth yw tyfu i fyny yng Nghymru a chael perthnasoedd nad ydynt yn rhai iach. O'r fan hon y daeth syniad Nina i ddatblygu'r ffilmiau hyn yn fyw.
Mae'r ffilmiau bellach ar gael i ysgolion ar gais arbennig a'u nod yw codi ymwybyddiaeth o beryglon a chanlyniadau perthnasoedd niweidiol.
Arafu datblygiad clefyd Huntington
Fel rhan o'r treial UniQure, cyflwynodd Uned Atgyweirio Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN) therapi genynnau, sy'n canolbwyntio ar leihau cynhyrchu protein Huntington, i dri chlaf yng Nghaerdydd sydd â chlefyd Huntington.
Gallai'r therapi hwn arafu datblygiad y clefyd yn sylweddol a gallai hyd yn oed ei wella.
Cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid
Yn 2023, mae Dr Ashra Khanom, o Brifysgol Abertawe, wedi casglu gwybodaeth werthfawr am wasanaethau cyfieithu ar y pryd y GIG sydd ar gael i bobl sy'n ceisio noddfa yng Nghymru fel rhan o astudiaeth HEAR2 a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Gwnaeth Dr Khanom hyfforddi ymchwilwyr sy’n gymheiriaid i siarad yn uniongyrchol â cheiswyr lloches a ffoaduriaid i ddeall eu profiad o ddefnyddio gwasanaethau cyfieithu ar y pryd y GIG yn well. Dywedodd y gallai cymryd rhan a helpu gydag ymchwil helpu ceiswyr lloches ddod yn rhan o'u cymuned newydd.
Roedd yr astudiaeth Mamau ac Iechyd Meddwl (MAM), sy'n cael ei rhedeg gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, yn ceisio deall achosion o seicosis ôl-enedigol, cyflwr iechyd meddwl a all effeithio ar y rhai sydd wedi rhoi genedigaeth.
Dan arweiniad yr Athro Ian Jones, nod yr ymchwil hon yw helpu i atal datblygiad seicosis ôl-enedigol a gwella triniaeth a chymorth.
Eleni mae Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi bod yn gweithio'n galed i gefnogi eu haelodau i gyflawni eu potensial a datblygu eu gyrfaoedd ymchwil drwy'r cynllun mentoriaeth newydd, ac i greu cyfleoedd ariannu newydd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Lansiodd y tîm y Dyfarniadau Datblygu Ymchwilwyr a Dyfarniadau Cymrodoriaeth yn 2023. Mae'r cymrodoriaethau yn cynnig dyfarniad ddoethurol yn lle cyflog a dyfarniad cymrodoriaeth uwch. Ym mis Ionawr, bydd panel beirniaid y Dyfarniadau Datblygu Ymchwilwyr yn cwrdd i adolygu ceisiadau ac mae'r tîm yn edrych ymlaen at groesawu ymgeiswyr llwyddiannus i'r Gyfadran yn 2024.
Gwella diagnosis canser y croen
Mae ymchwilwyr Prifysgol De Cymru wedi bod yn gweithio i ddatblygu ap a allai helpu i symleiddio diagnosis canser y croen trwy helpu meddygon teulu i adnabod canserau posibl y croen yn haws.
Trwy gymryd lluniau rheolaidd o afreoleidd-dra croen, gall meddygon teulu wedyn atgyfeirio'r cleifion at arbenigwyr i reoli triniaeth yn gynharach yn y gobaith o achub bywydau.
Sicrhewch eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sy'n digwydd ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn 2024 trwy gofrestru i dderbyn ein bwletin.