Swansea

Effaith pandemig COVID-19 ar achosion o gyflyrau hirdymor yng Nghymru

7 Mawrth

Mae astudiaeth cyswllt data poblogaeth sy’n defnyddio cofnodion iechyd gofal sylfaenol ac eilaidd yn datgelu bod llai o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o gyflyrau hirdymor na’r disgwyl yn 2020 a 2021.

Cynyddodd cyfraddau diagnosis dros y cyfnod o 2 flynedd ond ar gyfer y rhan fwyaf o gyflyrau, roeddent yn parhau i lusgo y tu ôl i ddisgwyliadau ar ddiwedd 2021. Awgryma hyn dagfeydd posibl o gleifion heb ddiagnosis sy'n annhebygol o fod yn cael eu monitro a'u rheoli'n systematig ar gyfer eu cyflyrau.

Arweiniwyd yr astudiaeth gan ymchwilwyr o Wyddoniaeth Data Poblogaeth yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Chanolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd a Chanolfan PRIME Cymru.Ymhlith y cyflyrau yr effeithiwyd arnynt fwyaf roedd clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) ac anhwylderau gorbryder a oedd yn cyfateb i fwy na 30 ac 80 o ddiagnosis ‘ar goll’ mewn practis cyffredinol nodweddiadol o 10,000 o gleifion, yn y drefn honno.

Gall fod gan bractis o'r fath dros 400 o ddiagnosisau coll ar draws yr 17 cyflwr a astudiwyd. Ni chanfu ymchwilwyr unrhyw wahaniaethau nodedig yn nodweddion demograffig-gymdeithasol y cleifion a gafodd ddiagnosis cyn ac ar ôl pandemig megis oedran, rhyw ac ethnigrwydd.

Bydd ail gam yr ymchwil yn adeiladu ar y gwaith hwn i ymchwilio i effaith COVID-19 ar batrymau defnyddio adnoddau gofal iechyd (HRU) ar gyfer cleifion â chyflyrau hirdymor.

Bydd angen dyraniad adnoddau penodol er mwyn galluogi staff gofal iechyd i chwilio cofnodion, profi a sgrinio grwpiau risg i ganfod y rhai sy'n byw gyda chyflyrau hirdymor heb ddiagnosis, yn ogystal â mentrau i eirioli cleifion â symptomau a allai fod yn berthnasol i'w cyflwyno i ofal sylfaenol.

Cynhaliodd tîm yr astudiaeth, astudiaeth gysylltu data poblogaeth gan ddefnyddio data gofal sylfaenol ac eilaidd o fewn Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL). Nodwyd bod 2,257,992 o unigolion yn byw yng Nghymru wedi cael diagnosis am y tro cyntaf gydag unrhyw un o 17 o gyflyrau hirdymor rhwng Ionawr 1, 2000 a Rhagfyr 31, 2021.

Gan gymharu cyfraddau diagnosis pob cyflwr rhwng 2020 a 2021 â disgwyliadau a ragwelir yn seiliedig ar gyfraddau rhwng 2015 a 2019, fe wnaeth ymchwilwyr amcangyfrif y gwahaniaeth rhwng cyfanswm nifer y diagnosisau disgwyliedig a'r rhai a gofnodwyd dros y cyfnod o ddwy flynedd.

Datgela’r ymchwil hwn tagfeydd posibl o gleifion heb ddiagnosis sydd â chyflyrau hirdymor lluosog yng Nghymru sydd angen adnoddau i fynd i’r afael â llwyth gwaith a ragwelir fel rhan o adferiad COVID-19, yn enwedig mewn gofal sylfaenol.

“Mae’r astudiaeth hon yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ni ar yr effeithiau ehangach y mae pandemig COVID-19 wedi’u cael ar bobl, cymunedau a’r GIG yng Nghymru,” dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac Athro Polisi a Rheolaeth Iechyd. “Dengys partneriaethau ymchwil fel hyn nid yn unig gwerth enfawr cydweithredu mewn ymchwil ond hefyd yr ystod o fanteision a gynigir trwy wneud defnydd llawn o ddata a gesglir yn rheolaidd. O fis Ebrill eleni, bydd Canolfan Dystiolaeth Cymru, sydd newydd ei hehangu, yn cyflawni cylch gwaith ehangach, gan fynd i’r afael â materion allweddol sy’n flaenoriaeth ym meysydd iechyd, iechyd y cyhoedd a gofal cymdeithasol.”

Meddai Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, ‘Mae hwn yn faes ymchwil hanfodol i leihau bylchau mewn anghydraddoldeb iechyd yng Nghymru. Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu ariannu a chefnogi'r ymchwil hwn ochr yn ochr â'n partneriaid cydweithio ymroddedig yn y tîm Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Edrychwn ymlaen at barhau â’n gwaith tuag at wella iechyd y cyhoedd a chydraddoldeb i’n cam nesaf o’n gwaith, wrth i ni drawsnewid i Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.’

Ychwanegodd cyd-gyfarwyddwr Banc Data SAIL, yr Athro Ronan Lyons“Mae Banc Data SAIL wedi bod yn arf annatod ar gyfer monitro trosglwyddiad ac effeithiau hirdymor y pandemig ers iddo ddod i'r amlwg gyntaf. Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae’r timau yn SAIL a Gwyddor Data Poblogaeth, ynghyd ag eraill ar draws cyrff iechyd y cyhoedd yng Nghymru, wedi gweithio’n galed i ddatblygu ein rhwydwaith a’n galluoedd. Mae hyn wedi ein galluogi i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i’r argyfwng iechyd hwn. Fel rhan o’r cydweithio hwn yn Cymru’n Un, mae ein gwaith ymhell o fod wedi gorffen wrth i ni barhau i fonitro ac asesu effaith COVID-19 ar draws Cymru a sicrhau ein bod yn dysgu o’r profiad hwn ac yn gwella ymhellach ein cyd-ddatrysiad a’n gwybodaeth ar gyfer argyfyngau iechyd yn y dyfodol.”