"Mae pobl â phrofiad bywyd yn dod ag ymchwil yn fyw": Arbenigwyr gofal cymdeithasol ar bwysigrwydd perthnasoedd mewn ymchwil
24 Hydref
Daeth arbenigwyr o bob rhan o faes gofal cymdeithasol at ei gilydd yn negfed cynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar banel yn y cyfarfod llawn ar sut y gall ymchwil yn y maes hwn effeithio ar bolisi ac arfer.
Dan gadeiryddiaeth Dr Diane Seddon, Darllenydd mewn Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, daeth y panel â'r Athro Donald Forrester, Cyfarwyddwr, Partneriaeth CASCADE, Rachel Scourfield, Pennaeth Hwyluso Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru a'r Athro Paul Willis, Cyfarwyddwr, y Ganolfan Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) ynghyd.
Roedd y tri yn cytuno mai un o'r ffactorau mwyaf sylfaenol wrth gyflwyno ymchwil effeithiol yw datblygu perthnasoedd hirdymor, effeithiol gyda'r rhai sy'n cymryd rhan.
Wrth agor y drafodaeth, esboniodd yr Athro Forrester pa mor werthfawr oedd gweld effaith gadarnhaol un prosiect penodol yn ymarferol: "Mae cynnwys eraill sydd â phrofiad bywyd yn allweddol drwy gydol y gwaith o ddylunio, datblygu a rhannu ymchwil. Mae ymchwil dda iawn sy'n gwneud gwahaniaeth yn dibynnu ar ddatblygu'r perthnasoedd parhaus hyn.
Tyfodd prosiect addysg plant sy’n derbyn gofal y bartneriaeth o ymgysylltiad agos â'r sector. Roedd gwrando ar blant a phobl ifanc a gweithio gyda nhw wrth wraidd y prosiect. Ers hynny mae wedi arwain at newidiadau polisi sydd wedi newid bywydau plant."
Cytunodd yr Athro Lewis, gan gyfeirio at brosiect sy'n cynnwys gweithredu technoleg glyfar ar gyfer pobl sy'n byw mewn llety â chymorth. Gan weithio gyda phreswylwyr cymdeithasau tai, datblygwyd llawlyfr a oedd wedyn yn llywio'r broses ddylunio tai. Dywedodd yr Athro Lewis, "Mae mor bwysig bod â’r rhanddeiliaid cywir o amgylch y bwrdd ac ymgysylltu â nhw yn gynnar. Mae'r bobl hyn yn aml yn "arbenigwyr yn ôl profiad" ac mae cyfuno ac alinio eu mewnbwn yn creu gwaith mwy effeithiol."
Roedd y tri yn cytuno fodd bynnag y gall adeiladu – ac yn bwysicach fyth, cynnal – y perthnasoedd hyn fod yn heriol. Esboniodd Rachel Scourfield un o'r rhwystrau mwyaf: amser.
Rhoddodd dyfarniad cyllid blaenorol amser wedi’i neilltuo iddi i wneud gwaith ymchwil, ochr yn ochr â gweithio fel gweithiwr cymdeithasol, cyfle yr hoffai ei weld ar gael yn ehangach. Dywedodd Rachel, "Rydym yn aml yn gweld diwylliant ymchwil yn mynd heibio i unigolion angerddol, yn hytrach na’u hymgorffori. Mae angen i ni agor y drws i fwy o bobl fod yn rhan o ymchwil."
Cytunodd yr Athro Lewis y gall strwythur y dirwedd ariannu hefyd greu heriau:
Pan fydd cyllid yn dod i ben, gall deimlo fel "ymyl clogwyn", ond mae parhad a chynnal perthnasoedd er mwyn peidio â cholli lleisiau grwpiau penodol mor bwysig.
"Mae pobl yn gwrando'n wahanol ar berson sydd â phrofiad bywyd. Maen nhw'n dod â'r ymchwil yn fyw. Os yw ymchwil yn cael ei adeiladu ar y perthnasoedd parhaus hyn, mae ymchwil yn well, yn fwy perthnasol ac yn fwy ystyrlon."
Cytunodd yr Athro Forrester, gan bwysleisio gwerth cyllid craidd Partneriaeth CASCADE i gefnogi eu swyddog Cynnwys y Cyhoedd ac felly cadw at y perthnasoedd parhaus hyn. Gwelwyd hyn yn ddiweddarach yn ystod y gynhadledd, pan gyflwynwyd Gwobr Cynnwys y Cyhoedd eleni i Grŵp Cynghori Ymchwil Rhieni CASCADE.
Dywedodd Rachel Scourfield mai'r cam nesaf fyddai gwneud ymchwil yn fwy hygyrch i gynyddu ei heffaith: "Mae iaith yn bwysig iawn. Mae angen i ymchwil fod yn ystyrlon i'r bobl y mae'n mynd i helpu. Mae gwneud ymchwil yn fwy hygyrch trwy bethau fel crynodebau tystiolaeth yn golygu y bydd pobl yn ei defnyddio yn fwy ac felly bydd yn cael mwy o effaith ar bolisi."
Am y rhaglen lawn, ewch i dudalen y gynhadledd.