Group of four women sat on chairs on a stage

Cynlluniau Dyfarniad Hyfforddiant Ymchwil ac Ymchwilwyr sy'n Dod i'r Amlwg y Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn lansio ym mis Ionawr 2025

22 Rhagfyr

Bydd Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn lansio rownd nesaf y Dyfarniadau Hyfforddiant Ymchwil a'r Dyfarniadau Ymchwilwyr sy'n Dod i'r Amlwg ddydd Llun 6 Ionawr 2025.

Dyfarniad Hyfforddiant Ymchwil

Mae'r cynllun hwn yn darparu cyllid (ffioedd dysgu a chymorth cyflog rhannol) i ymgymryd â gradd Meistr mewn Ymchwil (Dulliau) neu ddyfarniad hyfforddi ymchwil lefel meistr cyfatebol mewn ymchwil cymhwysol iechyd a/neu ofal cymdeithasol sy'n dechrau ym mlwyddyn academaidd 2025/2026.

Mae'r cyfle yn agored i staff GIG Cymru, awdurdodau lleol (gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion neu blant), neu mewn darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol fel gofal sylfaenol, fferyllfa gymunedol, gofal preswyl i oedolion neu blant, neu ofal cartref. Mae'r dyfarniad hwn wedi'i anelu at y rhai sydd yng nghamau cynnar eu gyrfa ymchwil (nid o reidrwydd yn gynnar yn eu gyrfa glinigol neu ymarfer) i'w cefnogi i ddatblygu sgiliau ymchwil cymhwysol a chymryd y camau cyntaf ar eu taith ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Dylai fod gan ymgeiswyr ddiddordeb amlwg mewn datblygu eu sgiliau ymchwil a dylent ddymuno datblygu eu gyrfa ymchwil ar ôl cwblhau eu cwrs.

Dyfarniad Ymchwilydd sy'n Dod i'r Amlwg

Nod y dyfarniad hwn yw cefnogi ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol sydd am gymryd eu camau cyntaf i yrfa ymchwil trwy ddarparu amser gwarchodedig i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil datblygiadol a chyllid ar gyfer costau nad ydynt yn staff (megis teithio a chynhaliaeth, costau cynnwys y cyhoedd a chostau hyfforddi). Mae'r cynllun yn darparu cefnogaeth hyblyg a chynhwysol i ymchwilwyr yng nghamau cynharach eu gyrfaoedd ymchwil.

Bydd y dyfarniad yn cefnogi unigolion a gyflogir yn y GIG neu sefydliadau gofal cymdeithasol yng Nghymru i roi sylfeini ar gyfer gyrfa ymchwil academaidd glinigol a/neu ymarfer hirdymor, gan gynnwys gwaith datblygu a fydd yn arwain at PhD trwy Waith Cyhoeddedig.

Cymorthfeydd Dyfarniad

Ymunwch â'n Cynghorwyr Datblygu Ymchwilwyr mewn cymhorthfa dyfarniad i gael y cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau am y Dyfarniadau Hyfforddiant Ymchwilwyr ac Ymchwilydd sy'n Dod i'r Amlwg.

  • Dydd Llun 13 Ionawr 10:00 – 11:00  
  • Dydd Mawrth 21 Ionawr 13:00 – 14:00  

Llenwch y ffurflen gofrestru i drefnu eich lle mewn cymhorthfa

Ffenestr ymgeisio

Yn agor: Dydd Llun 6 Ionawr 2025

Yn cau: 16:00 ddydd Iau 13 Chwefror 2024

Mae mwy o wybodaeth ar y dudalen we cynlluniau ariannu.