Three women taking part in public involvement

Dwy flynedd o ymrwymiad ar y cyd i gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil

11 Mawrth

Dydd Sul 10 Mawrth 2024 bydd yn ddwy flynedd ers i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ochr yn ochr â chyllidwyr, rheoleiddwyr a sefydliadau ymchwil eraill, gytuno ar ymrwymiad newydd ar y cyd i wella cyfranogiad hanfodol y cyhoedd mewn ymchwil.

Mae aelod-sefydliadau, gan gynnwys yr Awdurdod Ymchwil Iechyd, y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal a GIG Lloegr, yn gweithio gyda'r cyhoedd i gyflawni newidiadau a fydd yn codi safonau mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.

Drwy ddarparu adnoddau a chyfeirio, nod yr ymrwymiad ar y cyd yw helpu ymchwilwyr i ymgysylltu ag aelodau'r cyhoedd, i helpu i sicrhau bod eu hymchwil yn gynhwysol, yn foesegol ac yn ymatebol i anghenion a diddordebau eu poblogaeth darged.

Mae cyfranogiad y cyhoedd mewn ymchwil yn hanfodol, trwy gynnwys aelodau'r cyhoedd wrth ddylunio, cynnal a lledaenu ymchwil, gall ymchwilwyr gael gwell dealltwriaeth o brofiadau, safbwyntiau ac anghenion eu poblogaeth darged. Mae hyn yn arwain at ymyriadau a thriniaethau mwy effeithiol a phriodol.

Dywedodd Peter Gee, Uwch Reolwr Cynnwys y Cyhoedd yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ein cenhadaeth yw cefnogi a datblygu ymchwil ragorol ac mae aelodau'r cyhoedd yn hanfodol i sicrhau bod ymchwil yn berthnasol, yn ddibynadwy ac yn newid polisi ac ymarfer.

"Rydym mor falch o fod yn rhan o'r ymrwymiad hwn ar y cyd ac i gydweithio â phartneriaid i hybu rhagoriaeth wrth gynnwys y cyhoedd."

Mae Peter yn esbonio pam mae cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil mor bwysig:

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu cymorth ac adnoddau gwerthfawr i hwyluso cynnwys y cyhoedd yn eich gwaith. Ein Cydlynydd Cynnwys y Cyhoedd, Emma Langley, sy’n sôn am sut y gallwn eich helpu i gymryd rhan ystyrlon gan y cyhoedd:

Os hoffech ddysgu mwy am sut y gallwn eich cefnogi i gynnwys aelodau'r cyhoedd yn eich ymchwil, cysylltwch â'n tîm Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chynnwys.