bydwragedd ymchwil

Pum astudiaeth ymchwil bydwreigiaeth Cymru sy'n arwain arfer gorau

3 Mai

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Fydwraig eleni (5 Mai 2024), rydym yn dathlu rôl hanfodol bydwragedd ymchwil ledled Cymru, sy'n treulio'u dyddiau yn gwella arferion a gwasanaethau bydwreigiaeth.

Ar hyn o bryd, mae 27 o astudiaethau ymchwil iechyd a genedigaeth atgenhedlu ar agor yng Nghymru, sydd â’r nod o wella canlyniadau i famau a'u babanod.

Dyma bum astudiaeth a gynhaliwyd yng Nghymru sydd wedi newid arferion ac sy'n gwella bywydau mamau a'u babanod:

1. Amddiffyn babanod newydd yn erbyn Strep B

Nod bydwragedd ymchwil ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd helpu i wneud beichiogrwydd a genedigaeth yn fwy diogel mewn astudiaeth ledled y DU i atal babanod newydd-anedig rhag cael bacteria a allai beryglu eu bywydau - Streptococcus Grŵp B - oddi wrth eu mamau, yn ystod eu genedigaeth.

Dywedodd Jayne Goodwin Pennaeth Cenedlaethol Cyflenwi Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:  "Byddai'r astudiaeth yn ateb cwestiynau pwysig ynghylch sut y gallem leihau nifer y babanod newydd-anedig sy'n dal Streptococcus Grŵp B. Mae bydwragedd ymchwil yn gwbl hanfodol i wneud i ymchwil fel hyn ddigwydd."

2. Gwella canlyniadau iechyd mamau

Mae Prosiect Strategaeth Waedu Obstetreg Cymru wedi gwella rheolaeth gwaedlif ôl-enedigol mewn unedau mamolaeth ledled Cymru. Mae'r prosiect hefyd wedi'i fabwysiadu i Ganllawiau Gwaedlif Ôl-enedigol Cymru Gyfan ac mae byrddau iechyd bellach yn dilyn yr un broses o reoli colli gwaed yn ystod genedigaeth.

Dywedodd Yr Athro Julia Sanders, Arweinydd Arbenigedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer Iechyd Atgenhedlol: "Rwyf mor falch o ddatblygiadau fel hyn sy'n dangos sut mae'r timau mamolaeth amlddisgyblaethol yng Nghymru yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu a phrofi gwelliannau arloesol i ofal mamolaeth ac ymarfer bydwreigiaeth."

3. Cefnogi nodau bwydo ar y fron mamau

Ymgysylltodd Astudiaeth ABA-feed, dan arweiniad tîm o fydwragedd arbenigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, â bron i 200 o famau tro cyntaf mewn treial i ystyried a allai cael gwell cefnogaeth, megis cymorth cymheiriaid, wella parhad bwydo ar y fron yn llwyddiannus.

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae'n galonogol gweld yr adborth cadarnhaol gan gyfranogwyr - mae eu profiadau yn hanfodol i lywio dyluniad gwasanaethau yn y dyfodol, ac i gefnogi menywod i wneud dewisiadau mwy gwybodus am yr hyn sy'n iawn iddyn nhw a'u baban."

4. Mynd i'r afael â beichiogrwydd ac anghenion gefeilliaid

Roedd prosiect ymchwil Gwerthuso Risg Cyn Geni mewn Beichiogrwydd Gefeilliaid (EARS) yn astudiaeth ledled y DU gyda'r nod o ddarganfod ffactorau risg mewn beichiogrwydd lluosog a all arwain at fabanod yn mynd yn wael cyn ac ar ôl genedigaeth.

Dywedodd yr Athro Julia Sanders:  "Mae ymchwil fel prosiect EARS yn hanfodol wrth gyfrannu tystiolaeth bwysig fel ein bod yn gwybod beth yw’r ffordd orau o gynghori menywod a chadw eu babanod yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth a gofal ôl-enedigol.."

5. Helpu mamau i stopio ysmygu

Mae bydwragedd arbenigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cefnogi ysmygwyr beichiog i roi'r gorau i ysmygu gan ddefnyddio amnewidyn nicotin ynghyd ag ymyrraeth cymorth ymddygiadol newydd.

Dywedodd y fydwraig ymchwil Joelle Morgan:  "Rydym yn gobeithio adnabod menywod ar y pwynt cofrestru neu ar eu dyddiad sganio fel y gallwn eu cefnogi’n gynnar yn y beichiogrwydd."

Sut olwg sydd ar ddiwrnod ym mywyd bydwraig ymchwil?  Gwyliwch y fideo o Sharon Jones i ddarganfod mwy.

Darganfyddwch fwy am Ddiwrnod Rhyngwladol y Fydwraig ar wefan Cydffederasiwn Rhyngwladol y Bydwragedd.

I gadw i fyny â'r diweddaraf mewn ymchwil yng Nghymru, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.