Richard Anderson

Dr Richard Anderson

Arweinydd Arbenigol ar Glefyd Cardiofasgwlaidd

Mae Dr Richard Anderson yn gardiolegydd ymgynghorol clinigol amser llawn ac mae wedi bod yn perfformio ac yn ymchwilio i ymyriadau cardiaidd am 17 o flynyddoedd. Mae wedi arwain pwyllgorau comisiynu yng Nghymru i sicrhau bod triniaethau falfiau cymhleth yn cael eu cychwyn yng Nghymru. Mae wedi cynghori NICE ar wasanaethau arbenigol a Thechnoleg Iechyd Cymru ar y maes ymyriadau strwythurol yng Nghymru.

Trwy gydol yr amser hwn fel ymgynghorydd, mae Richard wedi bod yn ymwneud ag ymchwil glinigol. Ef yw Arweinydd Arbenigedd Cymru ar gyfer Ymchwil Gardiofasgwlaidd ar hyn o bryd, ac mae’n arweinydd Y&D is-adran gwasanaethau arbenigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae wedi bod yn Ben Ymchwilydd ac yn Brif Ymchwilydd ar astudiaethau amlganolfan cenedlaethol a rhyngwladol. Mae hefyd wedi chwarae rhan mewn llawer o astudiaethau amlganolfan y galon a falfiau yn y DU, sydd wedi arwain at lawer o gyhoeddiadau

Cyn hyn, mae Richard wedi denu arian oddi wrth Sefydliad Prydeinig y Galon a’r diwydiant ar gyfer ei brosiectau ymchwil ac mae ganddo dros 100 o gyhoeddiadau sydd wedi’u hadolygu gan gymheiriaid. Mae’r rhain yn cynnwys, yn fwyaf diweddar, papurau yn y Lancet a’r New England Journal of Medicine.


Darllenwch fwy am eu gwaith:

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)

Cysylltwch â Richard

E-bost

Twitter