
Astudiaeth i ymdrin â heintiau rheolaidd y llwybr wrinol yn recriwtio nawr
1 Awst
Mae astudiaeth newydd ledled y DU sydd â’r nod o wella triniaeth i fenywod sydd â heintiau rheolaidd y llwybr wrinol (UTI) yn cael ei chydlynu gan Ganolfan Ymchwil Treialon Prifysgol Caerdydd, ac yn cael ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Nod treial VESPER (paratoadau o fewn y bledren ar gyfer atal heintiau rheolaidd y llwybr wrinol) yw gwerthuso strategaethau triniaeth amgen ar gyfer heintiau syml a rheolaidd y llwybr wrinol (rUTI) mewn menywod, ac mae bellach yn agored ar gyfer recriwtio.
Y nod yw cofrestru 412 o fenywod 16 oed a hŷn sy'n dioddef heintiau UTI syml yn aml, nad ydynt wedi ymateb i driniaethau gwrthfiotig cychwynnol.
Bydd menywod sy’n cael eu gweld mewn clinigau wroleg neu wrogynaecoleg ysbytai gyda rUTI nad ydynt wedi gwella ar ôl triniaeth wrthfiotig gychwynnol yn cael gwahoddiad i gymryd rhan.
Yn ôl ymchwil flaenorol, bydd tua hanner menywod yn cael o leiaf un UTI yn ystod eu bywyd a bydd tua 40 y cant o fenywod yn cael UTI arall o fewn blwyddyn.
Bydd VESPER, sy'n cael ei ariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR), yn cymharu dau therapi sy’n cael eu darparu yn y bledren — gentamicin a glycosaminoglycan (GAG) — gyda'r gofal safonol presennol, a gynigir os nad yw’r driniaeth gychwynnol wedi gweithio, sef proffylacsis gwrthfiotig dos isel dyddiol.
Dr Emma Thomas-Jones, Prif Gymrawd Ymchwil a Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Llid Heintiau ac Imiwnedd yn y Ganolfan Ymchwil Treialon, yw'r Prif Ymchwilydd ochr yn ochr â'r cyd-ymchwilydd, Dr David Gillespie, Prif Gymrawd Ymchwil a Chyfarwyddwr Treialon Heintiau, Llid ac Imiwnedd yn y Ganolfan Ymchwil Treialon, Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd y Prif Ymchwilydd, yr Athro Chris Harding, Llawfeddyg Wrolegol Ymgynghorol yn Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Ysbytai Newcastle upon Tyne: "Mae'r astudiaeth hon yn cynnig cyfle hanfodol i archwilio triniaethau mwy effeithiol a chynaliadwy ar gyfer cyflwr sy'n effeithio'n sylweddol ar ansawdd bywyd miloedd o fenywod."
Mae'r ymchwil yn cael ei noddi gan Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Ysbytai Newcastle upon Tyne, bydd yn cael ei chyflwyno mewn 20 o safleoedd ledled y DU ac mae'n agored ar gyfer recriwtio tan 30 Medi 2026.
I gael rhagor o wybodaeth neu i fynegi diddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â VESPER@cardiff.ac.uk.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf o fyd ymchwil iechyd a gofal diweddaraf, tanysgrifiwch i dderbyn ein bwletin wythnosol.