Sarah Milosevic gyda'i babi

Lleihau gwaedu difrifol ar ôl rhoi genedigaeth yng Nghymru o ganlyniad i ymchwil sy'n achub bywydau

4 Mai

Mae prosiect gwella iechyd yng Nghymru sydd wedi arwain at 160 o fenywod y flwyddyn yn osgoi'r angen am drallwysiad gwaed ar ôl rhoi genedigaeth wedi newid canllawiau gwaedlif ôl-enedigol i Gymru.
 
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Fydwraig (5 Mai) rydym yn tynnu sylw at swyddogaeth hanfodol ymchwil wrth wella ymarfer bydwreigiaeth. Roedd y Strategaeth Gwaedu Obstetrig (OBS) i Gymru yn rhaglen wella o 2016-2019 yn seiliedig ar ganlyniadau astudiaeth OBS2, dan arweiniad yr Athro Peter Collins, ac a gynhaliwyd gan y Ganolfan Ymchwil Treialon, sy'n rhan o gymuned a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Nod OBS Cymru oedd lleihau’r niwed o ganlyniad i waedlif ôl-enedigol drwy ddefnyddio rhestr wirio newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i fydwragedd fesur faint o waed a gollwyd wrth roi genedigaeth drwy bwyso faint o waed sydd ar gynfasau claf ac mewn cynwysyddion casglu. Mae'r broses hon yn golygu bod bydwragedd yn gwybod cyn gynted ag y bydd claf yn gwaedu'n annormal, gan alluogi ymyriadau cynnar i atal yr angen am drallwysiad gwaed. Cyn hyn, nid oedd colled gwaed yn cael ei fesur yn gyson yng Nghymru.

Oherwydd ei lwyddiant, mae OBS Cymru wedi'i fabwysiadu yng Nghanllawiau Gwaedlif Ôl-enedigol Cymru Gyfan. Mae bydwragedd, obstetryddion, anesthetyddion, haematolegwyr, a chynorthwywyr gofal iechyd ym mhob rhan o'r byrddau iechyd yn dilyn yr un broses bellach ar gyfer rheoli colled gwaed yn ystod genedigaeth. Yn 2021, cafodd OBS Cymru Wobr Effaith Ymchwil gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Dywedodd Dr Sarah Bell, anesthetydd ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sy'n arwain y gwaith hwn:

"Mae prosiect OBS Cymru yn ffrwyth deng mlynedd o ymchwil i'r ffyrdd gorau o nodi a thrin gwaedu difrifol ar ôl genedigaeth. Rydym yn gwybod bod cleifion yng Nghymru yn elwa ar y newid hwn mewn arfer a thrwy ragor o ymchwil rydym yn gobeithio newid canllawiau gwaedlif ôl-enedigol yn y dyfodol ledled y DU fel y gall y dull hwn fod o fudd i bob menyw."

Dywedodd Maryanne Bray, Bydwraig Ymchwil Arweiniol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: 

"Mae ymchwil i ymyriadau fel hyn mor bwysig gan ei fod yn dangos sut y gall newidiadau bach yn ein prosesau gael effaith fawr. Gall yr hyn yr ydym yn ei wneud fel tîm mamolaeth effeithio ar fam a'i babi am weddill eu hoes felly mae'n bwysig ein bod ni’n gwneud pethau’n iawn. Rwy'n credu bod cymaint y gallwn ei wneud o hyd i wella gofal a chanlyniadau i fenywod yn y dyfodol a gwaith ymchwil yw'r ateb."

Mae Sarah Milosevic, 35, yn dod o Langatwg a chafodd waedlif difrifol gyda'i babi cyntaf ym mis Tachwedd 2021.

Dywedodd Sarah: "Gwelais hysbyseb ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gofyn am bobl sydd â phrofiad o waedlif ôl-enedigol i helpu i gynllunio ymchwil pellach i effeithiolrwydd OBS Cymru. Rwy'n credu bod ymchwil mamolaeth yn hanfodol bwysig, a gan fod y trafodaethau ar-lein roedd yn hawdd cymryd rhan gyda babi bach!
 
"Er fy mod i wedi gwaedu'n ddifrifol pan roddais enedigaeth i fy mab, roedd yn amlwg bod y bydwragedd a'r meddygon yn gwybod yn union beth roeddent nhw’n ei wneud ac roeddwn i'n teimlo fy mod i mewn dwylo diogel. Fodd bynnag, rwy'n gwybod nad yw hyn yn wir i bob mam, ac y gall gwaedlif ôl-enedigol fod yn brofiad anodd iawn. Roeddwn i eisiau rhoi adborth fel y gallwn i helpu i gyfrannu at wella gofal mamolaeth ledled y DU."

Mae Charlene Jones, 42, yn dod o Gastell-nedd a chafodd waedlif difrifol ar ôl rhoi genedigaeth i'w gefeilliaid ym mis Chwefror 2020.

Dywedodd Charlene: "Ar ôl i fy merched gael eu geni, sylwodd fy mhartner fy mod i’n colli llawer o waed. Er ei fod yn eithaf brawychus i ni, ymatebodd y fydwraig yn gyflym, gan rybuddio'r tîm obstetrig. Gwelais i nhw'n pwyso fy nghynfasau gwely i ddarganfod faint o waed roeddwn i wedi'i golli, ac rwyf i wedi dysgu bod hynny oherwydd OBS Cymru.

"Roedd pawb yn gwybod beth roedden nhw'n ei wneud ac roedd y fydwraig yn cyfathrebu â mi'n glir am yr hyn oedd yn digwydd. O ystyried pa mor frawychus oedd y sefyllfa, rwy'n teimlo fy mod i wedi cael gofal rhagorol ac rwy’n credu mai diolch i OBS Cymru yw hynny. Mae'n fy ngwneud i’n falch iawn bod ymchwil o Gymru yn arwain y ffordd o ran gwella triniaeth ar gyfer gwaedlif ôl-enedigol."

Wrth siarad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Fydwraig 2022, dywedodd yr Athro Julia Sanders, Arweinydd Arbenigol ar Iechyd Atgenhedlu yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: 

"Gwaedu difrifol yw un o'r cymhlethdodau mwyaf cyffredin i fenywod yn ystod genedigaeth, ac i fydwragedd ac obstetregwyr. Mae prosiect OBS Cymru wedi gwella'r ffordd o reoli gwaedlif ôl-enedigol mewn unedau mamolaeth ledled Cymru, gan arwain at well canlyniadau i'r menywod yn ein gofal.

"Er y dangoswyd bod dull OBS Cymru o ymdrin â gwaedlif ôl-enedigol yn gweithio yng Nghymru, mae canllawiau ac arferion yn dal i fod yn wahanol ledled y DU. Er mwyn cael y dystiolaeth gref sydd ei hangen i gefnogi dull OBS Cymru, mae angen rhagor o ymchwil ar raddfa fwy bellach sy'n cynnwys gwledydd eraill y DU. Mae cais ar gyfer yr astudiaeth fwy hon wedi'i ddatblygu ac rwy'n gobeithio y caiff ei hariannu. Rwyf mor falch o ddatblygiadau fel hyn sy'n dangos sut mae'r timau mamolaeth amlddisgyblaethol yng Nghymru yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu a phrofi gwelliannau arloesol i ofal mamolaeth ac ymarfer bydwreigiaeth."

Dysgwch fwy am sut mae bydwragedd ymchwil Cymru yn paratoi'r ffordd ar gyfer arfer gorau

Gwyliwch anesthetydd ymgynghorol, Dr Sarah Bell, yn siarad am brosiect OBS Cymru