llefaryddion cynhadledd

Copi mewnol ar gyfer dyfarniadau cyllid diweddaraf Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

1 Hydref

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cyhoeddi derbynwyr ei ddyfarniadau cyllid diweddaraf heddiw (1 Hydref 2025). 

Mae cyllid wedi'i ddyfarnu ar gyfer prosiectau sy'n mynd i'r afael ag anghenion y cyhoedd a chleifion, yn ogystal ag i gefnogi ymchwilwyr i ddatblygu eu gyrfaoedd ar draws amrywiaeth o bynciau.  Mae'r rhain yn cynnwys rhaglen gymorth i ofalwyr dementia ifanc, heneiddio gyda gofal HIV, gwella canlyniadau lleferydd ar gyfer plant a anwyd yn gynamserol a sgrinio canser y brostad anfewnwthiol – i enwi ond ychydig. 

Bydd pum prosiect yn derbyn cyllid o dan y Cynllun Cyllido Integredig sydd â dwy gangen dan arweiniad ymchwilwyr: Cangen 1 a Changen 2, gyda ffocws mewn ymchwil drosi, clinigol, iechyd cyhoeddus a gofal cymdeithasol.

Yn ogystal, mae 14 o ymchwilwyr unigol wedi derbyn cyllid drwy Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru o dan wobr Cymrodoriaeth Doethurol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gwobr Cymrodoriaeth Uwch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y Wobr Hyfforddiant Ymchwil a Gwobr yr Ymchwilydd sy'n Dod i'r Amlwg.

Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae ceisiadau eleni unwaith eto wedi tynnu sylw at ysgogiad ac arbenigedd ymchwilwyr o Gymru mewn ymateb i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r prosiectau a ariennir yn dangos ymrwymiad cryf i wella iechyd a lles ac rydym yn falch o gefnogi ymchwil sy'n cael effaith ystyrlon. 

"Rydym hefyd yn croesawu'n gynnes y dyfarniadau personol eleni. Mae eu cynigion amrywiol a chymhellol yn adlewyrchu cryfder talent ymchwil ledled Cymru a bydd y dyfarniadau hyn yn cefnogi eu datblygiad parhaus a'u cyfraniad i'w meysydd dewisol."

Mae rhestr lawn o ddyfarniadau cyllid a derbynwyr isod: 

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Enillwyr Dyfarniadau'r Prosiect

Cynllun Cyllido Integredig - Cangen 1: Ymchwil Drosi a Chlinigol

Dr Jordan Evans - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro           

Profion firaol anadlol wrth reoli babanod twymynol sy'n cyflwyno i ofal brys (prosiect REFINE) Astudiaeth beilot   

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£333,027)

Cynllun Cyllido Integredig - Cangen 2: Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Ymchwil Iechyd y Cyhoedd

Dr Patricia Masterson Algar - Prifysgol Bangor 

Cyd-ddylunio ac asesu dichonoldeb rhaglen cymorth cymheiriaid (RhCC) ar gyfer gofalwyr dementia ifanc

Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2025 (£225,877) 

Dr Sam Burr - Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Gwneud y mwyaf o Effaith Therapi Iaith a Lleferydd ar blant ag Anhwylder Sain Lleferydd Cam 2 (prosiect MISLToe_SSD-2): Astudiaeth ddichonoldeb o gasglu'r Set Canlyniadau Craidd yng Nghymru 

Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2025 (£297,653) 

Dr Adam Williams - Prifysgol Caerdydd 

HIV, Dyfodol Heneiddio a Gofal - astudiaeth o heneiddio gyda HIV yng Nghymru a threfniadau tai a gofal cymdeithasol

Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2025 (£285,879) 

Dr Emily Holmes - Prifysgol Bangor 

Gwerthusiad Economaidd Cynnar o systemau epidemioleg sy'n seiliedig ar ddŵr gwastraff i gefnogi strategaethau gwyliadwriaeth a rheoli presennol ar gyfer y norofirws mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£287,885)

 

Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - Enillwyr Dyfarniadau Personol

Dyfarniad Cymrodoriaeth Ddoethurol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

  • Dr Ellen Haire - Prifysgol Caerdydd 

    Datblygu set o ganlyniadau craidd i werthuso anghenion gofal lliniarol a chefnogol cleifion sydd â chlefyd yr afu anfalaen datblygedig.

    Dyddiad dechrau:  1 Chwefror 2026 (£55,309) 

  • Mrs Sharon Baker - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe 

    Penderfynu ar y protocol ymyrraeth gorau posibl i hyrwyddo datblygiad iaith plant a aned â hollt

    Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2025 (£267,720) 

  • Miss Eleanor Welsh - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro 

    Archwilio'r profiadau o fyw gyda syndrom tiwmor etifeddol prin: astudio'r poblogaethau sydd wedi'u tanastudio 

    Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2025 (£166,274) 

  • Mr Timothy Osborne - Prifysgol Abertawe

    Niwed sy'n gysylltiedig â meddyginiaeth yng Nghymru: proffiliau demograffig a ffactorau risg 

    Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£273,306)

Dyfarniad Cymrodoriaeth Uwch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

  • Dr Sam Burr - Prifysgol Metropolitan Caerdydd

    Gwella canlyniadau lleferydd ar gyfer plant a anwyd yn gynamserol iawn yng Nghymru (prosiect PROSPER)

    Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2025 (£473,759) 

  • Dr Isobella Honeyborne - Prifysgol Caerdydd 

    O serwm i hydoddiant: canfod biofarcwyr RNA mewn fesiglau allgellog ar gyfer sgrinio canser y brostad anfewnwthiol

    Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2025 (£599,841) 

  • Dr Huw Morgan - Prifysgol Caerdydd 

    Datblygu dyfais llif ochrol amlblecs ar gyfer biomarcwyr wrinol i ganfod canserau'r arennau

    Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2025 (£453,483) 

  • Dr Leah McLaughlin - Prifysgol Bangor          

    Dychmygu'r anhygoel: sut allwn ni gefnogi mwy o rieni i roi organau eu plant ar ôl iddynt farw. 

    Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£370,669)

Dyfarniad Hyfforddiant Ymchwil

  • Dr Bryony Coupe - Iechyd Cyhoeddus Cymru 

    Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2025 (£54,290)

  • Miss Bronagh McGoldrick - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro 

    Dyddiad dechrau:  1 Medi 2025 (£33,076) 

  • Dr Anna Collenette - Canolfan Iechyd Aberteifi 

    Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£90,280)

Dyfarniad Ymchwilydd sy'n Dod i'r Amlwg

  • Miss Rebekah Da Silva Teixeira - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan 

    Dyddiad dechrau:  1 Hydref 2025 (£45,169.60) 

  • Ms Emma Louise Sinnott - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan 

    Dyddiad dechrau:  18 Awst 2025 (£13,256) 

  • Miss Sara James - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro 

    Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2025 (£18,010)

    Cofrestrwch i'n cylchlythyr wythnosol a chadwch i fyny â'r newyddion ymchwil a'r cyfleoedd ariannu diweddaraf, a gwybodaeth ddefnyddiol arall.