Llun o Craig yn ymddangos yn y stadiwm pêl-droed.

Cyfranogiad Craig mewn ymchwil

Yn dilyn achos difrifol o COVID-19, mae Craig Greenstock, 61 0ed cyn weithiwr GIG wedi ymddeol o Bontypridd, wedi neilltuo ei amser i helpu i lunio prosiect ymchwil gyda'r nod o gefnogi'r rhai a wynebodd drawma ar ôl cael eu trin mewn gofal dwys.

Mae'r astudiaeth VR-READY yn ymchwilio i'r  defnydd posibl o drochi realiti rhithwir (VR) i helpu cleifion â syndrom  ôl-ofal ddwys (PICS) i wella o'r trawma.

Mae Craig, a brofodd heriau PICS ac sydd yn parhau i fyw gyda'i symtomau, wedi dod yn gynrychiolydd cleifion yn yr astudiaeth. Trwy rannu ei farn a'i feddyliau, mae'n helpu'r ymchwilwyr i ddylunio'r astudiaeth mewn ffordd a fydd o fudd i bobl y mae'r cyflwr yn effeithio arnynt.

Ar y dechrau, dywedodd Craig ei fod yn 'amheugar' ac yn 'betrusgar' i helpu, gan nad oedd erioed wedi bod yn rhan o ymchwil o'r blaen.

Ychwanegodd: "Roeddwn i'n teimlo fy mod i eisiau bod yn rhan ohono, gan ei fod yn rhywbeth agos iawn i mi a fy nheulu o ran y gofal a'r driniaeth a gefais gan y GIG. Chwaraeodd rhai o'r bobl sy'n rhan o'r astudiaeth rôl bersonol yn fy ngofal pan oeddwn yn yr ysbyty.

"Roeddwn eisiau rhoi rhywbeth yn ôl iddyn nhw ac roeddwn i'n teimlo mai dyma'r ffordd briodol i'w wneud.

"Mae'n anrhydedd mawr cael bod yn rhan o'r astudiaeth hon, yn enwedig wrth weithio ochr yn ochr ag ymgynghorwyr a nyrsys sy'n achub bywydau bob dydd. Mae gen i barch mawr tuag atyn nhw a'r gwaith pwysig maen nhw'n ei wneud."

Dywedodd Dr Kim Smallman a Cheney Drew, cyd-arweinwyr yr astudiaeth ochr yn ochr â Dr Ceri Lynch:

"Mae cynnwys Craig yn nhîm astudio VR-READY wedi bod yn allweddol wrth sicrhau bod ein hymchwil yn canolbwyntio'n llawn ar anghenion goroeswyr gofal dwys.

"Mae cyfraniad Craig wedi bod yn hanfodol i ddatblygiad ein gweithgareddau grŵp ffocws, gan arwain at gynnwys eitemau nad oedd y tîm astudio wedi eu hystyried o'r blaen, yn ogystal â darparu arweiniad amhrisiadwy ar sut y dylid cynnal yr astudiaeth er mwyn gwneud y mwyaf o hygyrchedd ystod eang o bobl.

"Credwn fod cynnwys profiad byw rhywun fel Craig yn ein galluogi ni, fel ymchwilwyr, i ymchwilio i'r pethau sydd bwysicaf i gleifion a chynhyrchu canlyniadau sy'n debygol o gael yr effeithiau mwyaf ystyrlon ar eu lles cyffredinol."

Ychwanegodd Craig:

"Mae ymchwil yn chwarae rhan bwysig yn ein bywydau bob dydd trwy ein helpu i dyfu ein gwybodaeth. Mae hanes yn dweud wrthym fod ymchwil yn hanfodol bwysig; heb ymchwil, ni fyddai gwyddonwyr wedi datblygu llawer o driniaethau achub bywyd na darganfod cyffuriau a gwrthfiotigau a all drin ystod o gyflyrau meddygol difrifol fel MMR, y Frech Wen, COVID-19 a'r Ffliw."

Bob wythnos, mae cannoedd o bobl yn helpu i wneud ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ddigwydd yng Nghymru. Dewch yn un ohonyn nhw heddiw ac ymunwch â'n cymuned cynnwys cleifion.