Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2023

Cofrestrwch nawr! Mwy na 170 yn ymuno â Chynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

25 Ebrill

Rydym yn falch iawn o rannu bod dros 170 o fynychwyr eisoes wedi cofrestru i fynychu ein nawfed gynhadledd ar 10 Hydref 2024 yng Ngerddi Sophia, Caerdydd.

Y thema eleni yw Mae Ymchwil yn Bwysig.

Peidiwch â cholli'r cyfle unigryw hwn i rwydweithio, dysgu ac ymgysylltu ag arbenigwyr blaenllaw a chwaraewyr y diwydiant i drafod byd ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol sy'n newid bywydau. Os na allwch ddod mewn person, gallech barhau i ymuno â'n cynhadledd drwy ddilyn y ffrwd byw.

Bydd y diwrnod yn cynnwys:

  • Sesiynau sy’n rhedeg yn gyfochrog ar bynciau fel:
    • Iechyd menywod
    • Gofal cymdeithasol
    • Arferion ymchwil cynaliadwy
    • Partneriaethau rhwng byrddau iechyd a phrifysgolion 
  • Trafodaethau dull TED wedi'u dewis o grynodebau a gyflwynwyd
  • Cyfle i rwydweithio gyda chydweithwyr o bob cwr o'r wlad
  • Gwobrau gyda'r categorïau canlynol:
    • Gwobr Effaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol 
    • Gwobr Seren Esgynnol Ymchwil
    • Gwobr Cynnwys y Cyhoedd 
    • Gwobr Arloesi mewn Ymarfer
  • Arddangosfa - gan gynnwys gwobr am y stondin fwyaf deniadol

Bydd mwy o wybodaeth ar gael yn fuan.

Cofrestrwch nawr ar gyfer eich lle yn y gynhadledd.

Cyflwynwch eich crynodebau ar gyfer trafodaethau dull TED. 

Cofrestrwch ar gyfer Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2024.

Tagiwch ni #YmchwilCymru24 i ymuno yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol.