Yr Athro Colin Dayan
Uwch Arweinydd Ymchwil
Cafodd Colin Dayan ei hyfforddiant meddygaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen, ac yn Ysbytai Guy’s a Charing Cross yn Llundain, y DU cyn ennill doethuriaeth ym maes imiwnoleg Clefyd Graves yn Labordy Marc Feldmann. Yna, treuliodd flwyddyn fel Cymrawd Endocrin yn Ysbyty Cyffredinol Massachusetts yn Boston, UDA cyn cwblhau ei hyfforddiant arbenigol ym maes diabetes ac endocrinoleg fel Darlithydd ym Mryste. Daeth yn uwch Ddarlithydd Ymgynghorol mewn meddygaeth (diabetes/endocrinoleg) ym Mhrifysgol Bryste ym 1995 ac, yn 2002, daeth yn Bennaeth Ymchwil Glinigol yn Labordai Henry Wellcome ar gyfer Endocrinoleg a Niwrowyddoniaeth Integreiddiol ym Mryste. Yn 2010, fe’i penodwyd yn Gadeirydd Metaboledd a Diabetes Clinigol ac yn Bennaeth Adran yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd. Bu’n Gyfarwyddwr y Sefydliad Meddygaeth Foleciwlaidd ac Arbrofol rhwng 2011 a 2015. Yn 2017, fe’i penodwyd i swydd Athro Endocrinoleg a Diabetes ym Mhrifysgol Bryste, y DU a oedd yn swydd ar y cyd â Chaerdydd. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys imiwnotherapi diabetes math 1 lle mae’n arwain consortiwm imiwnotherapi’r DU, therapi adfer hormonau thyroid a chlefyd thyroid awtoimiwnedd.
Yn y newyddion:
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)