Debs Smith, Georgina Ferguson-Glover and Dr Mayara Silveira Bianchim on the stage

Dim byd amdanom, hebddom - Debs Smith, Georgina Ferguson-Glover a Dr Mayara Silveira Bianchim

21 Hydref

Oeddech chi'n gwybod bod dros 1% o blant yng Nghymru mewn gofal?  Mae'r plant hyn yn aml yn wynebu heriau mawr ac maent mewn mwy o berygl o fod yn ddigartref gyda chyfraddau uwch o drafferthion iechyd meddwl yn eu bywydau fel oedolion.  Dim ond 6% o'r rhai sy'n gadael gofal sy'n mynd ymlaen i addysg uwch o'i gymharu â 47% o'u cyfoedion.

Gall ymchwil helpu i nodi'r hyn sydd angen ei newid ar gyfer y plant hynny.  Ond sut y gall yr ymchwil hwnnw adlewyrchu'r hyn sydd ei angen ar eich plentyn?  Dyna le mae Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd yn chwarae rhan. Mae Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd yn ymwneud â chynnwys lleisiau'r rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, fel plant sydd â phrofiad o ofal a'u teuluoedd.

Mae aelodau o grwpiau Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd yn helpu i lunio'r syniad ymchwil, gan sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar faterion bywyd go iawn ac adolygu dogfennau i sicrhau eu bod yn glir ac yn hawdd eu defnyddio. Mae aelodau Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd hefyd yn mynychu cyfarfodydd ac yn awgrymu sut y gellir rhannu canfyddiadau mewn ffyrdd ymarferol, hygyrch, fel trwy'r cyfryngau cymdeithasol neu ddigwyddiadau lleol.

Cyd-ddatblygodd Dr Mayara Silveira Bianchim, Swyddog Ymchwil o Brifysgol Bangor ac Arweinydd Cleifion a Chyhoeddus ar gyfer Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (sef y NCPHWR) grŵp Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd sydd wedi cyfrannu at dros 20 o grantiau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ers 2022, gan sicrhau dros £8 miliwn o gyllid i'r Ganolfan, ac sy'n parhau i ofyn: Sut y gall ymchwil wneud gwahaniaeth os nad yw'n dechrau gyda'r bobl mae wedi'i gynllunio i helpu?  

Dywedodd aelodau’r grŵp ac ymgynghorwyr lleyg profiadol, Georgina Ferguson-Glover a Debs Smith, fod yn rhaid i Gynnwys Cleifion a'r Cyhoedd fod wedi’i wreiddio drwy gydol y broses ymchwil gyfan, o’r cychwyn cyntaf - gan ddechrau gydag ysgrifennu cynigion ymchwil. Mae hyn yn sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed ac mae'r ymchwil wir yn adlewyrchu anghenion a safbwyntiau'r rhai y mae'n anelu at elwa.

Dywedodd Debs:

"Mae'n bryd gwneud y model rydyn ni'n ei ddefnyddio, lle mae popeth yn cael ei gyd-gynhyrchu o'r dechrau, fel y dull safonol, nid yr eithriad."

Ychwanegodd Georgina:

Mae ymchwil yn bwerus ond dim ond os yw'r bobl y mae'n anelu i'w helpu yn cael eu rhoi wrth wraidd hynny."

Yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru mae gennym Gymuned Cynnwys y Cyhoedd lle gall pobl gofrestru i helpu i lunio ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.

Gwyliwch Dr Bianchim ynghyd â chynrychiolwyr Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd, Georgina a Debs Smith, yn cyflwyno trafodaeth dull TED yn ein cynhadledd yn 2024 ar bwysigrwydd ymwneud â'r cyhoedd.

Mae defnyddio ymchwil plant mewn gofal a'u cyfraniadau yn ystod gwahanol gamau o'r ymchwil yn enghraifft o Gynnwys Cleifion a'r Cyhoedd rhagorol, bydd y sgwrs hon yn eich gadael yn meddwl am yr hyn a fyddai'n digwydd pe bai pob prosiect ymchwil yn dechrau gyda'r bobl y mae i fod i'w gwasanaethu.