'Dysgu sut i golli': Dr David Gillespie yn rhannu ei awgrymiadau ar sut i lywio gyrfa ymchwil
24 Hydref
Dr David Gillespie yw Cyd-gyfarwyddwr Uned Firoleg Gymhwysol Cymru (WAVU) a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae’n Brif Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil Treialon, lle mae'n arwain yr Is-adran Treialon Heintiau, Llid ac Imiwnedd.
Traddododd Dr Gillespie sgwrs ar ffurf TED yn negfed cynhadledd flynyddol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn myfyrio ar ei yrfa ymchwil ac yn cynghori ei hun pan oedd yn iau.
Gan agor gyda'r syniad bod gyrfa ymchwil yn ymwneud cymaint â gwydnwch ag y mae'n ymwneud â darganfod, anogodd Dr Gillespie ymchwilwyr i "fod â dyheadau" gan gydbwyso uchelgais â phersbectif a phwrpas. Gan dynnu o'i brofiadau ei hun ar draws ymchwil glinigol ac academaidd, rhannodd bedair egwyddor allweddol sy'n llywio ei yrfa ymchwil:
- Dewch o hyd i'ch pam
Gall ymchwil fod yn heriol, ansicr ac yn llawn o wrthodiadau. Atgoffodd Dr Gillespie y gynulleidfa bod gwybod pam rydych chi'n ei wneud, boed hynny'n chwilfrydedd, gwasanaeth cyhoeddus neu i greu byd gwell i'r genhedlaeth nesaf, yn eich angori pan fydd heriau'n codi. Iddo ef, mae gweld manteision posibl ei waith i'w ddwy ferch yn rhoi ystyr dyfnach i'w ymchwil.
- Dysgu colli'n dda
Mae pob gyrfa ymchwil wedi'i hadeiladu ar lwyddiant a methiant. Anogodd Dr Gillespie gydweithwyr i gofleidio gwrthodiadau, y grantiau na chewch a'r papurau na chaiff eu derbyn, fel rhan o'r broses. Dywedodd:
"Yr adlewyrchu a'r gwydnwch sy'n troi pob 'na' yn gynnydd."
- Gwerthfawrogi'r broses dros y canlyniad
Yn hytrach na chanolbwyntio ar gyhoeddiadau, cyllid neu fetrigau effaith yn unig, tynnodd Dr Gillespie sylw at bwysigrwydd mwynhau'r broses, gofyn cwestiynau, cydweithio, arbrofi a thyfu.
- Dewis y bobl rydych chi am weithio gyda nhw
Mae ymchwil yn gydweithredol wrth ei gwraidd. Pwysleisiodd Dr Gillespie y dylech amgylchynu eich hun â phobl sy'n rhannu eich gwerthoedd, sy’n eich herio'n adeiladol ac yn gwneud y gwaith yn bleserus. Dywedodd:
"Mae pwy rydych chi'n gweithio gyda nhw mor bwysig â'r hyn rydych chi'n gweithio arno."
Yn flaenorol, mae Dr Gillespie wedi bod â Chymrodoriaeth Ymchwil Iechyd a ddyfarnwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i ymchwilio i'r defnydd o Broffylacsis Cyn Amlygiad (PrEP) mewn unigolion sydd mewn perygl o gaffael HIV sy'n byw yng Nghymru.
Yn glinigol, mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar ddefnyddio meddyginiaeth ddarbodus ym maes clefydau heintus a gellir rhannu ei waith yn fras i'r meysydd allweddol hyn:
- Cadw at feddyginiaeth – yn benodol, ffyrdd y mae cadw at feddyginiaeth yn cael ei gysyniadu, ei fesur a'i fodelu
- Datblygu a gwerthuso ymyraethau stiwardiaeth gwrthficrobaidd
- Datblygu a gwerthuso ymyraethau iechyd y cyhoedd / atal
Lansiwyd WAVU ar 1 Ebrill 2025 yn dilyn dyfarnu £3 miliwn o gyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Ei nod yw gwella canlyniadau cleifion a'r cyhoedd trwy integreiddio firoleg sylfaenol a throsi gydag epidemioleg ac ymarfer firaol. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy arbenigedd rhyngddisgyblaethol, sy'n cynnwys firoleg sylfaenol a throsi, treialon clinigol, epidemioleg iechyd cyhoeddus a gwyddoniaeth weithredu, i gynhyrchu atebion ym maes clefyd firaol, gan arwain at ymchwil fwy effeithlon a gofal gwell i gleifion a'r cyhoedd.
I wybod mwy, gwyliwch sgwrs ar ffurf TED Dr Gillespie a gyflwynwyd yng nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2025.