menyw yn defnyddio ei ffôn symudol

Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - Naw awgrym anhygoel er mwyn creu fideo gwych

Mae Gwobrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru bellach ar agor ar gyfer cyflwyniadau i ddathlu rhagoriaeth ymchwil Cymru mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.

I gystadlu, i gyd sydd rhaid gwneud yw cwblhau’r ffurflen gais a recordio fideo byr a'u cyflwyno erbyn 15 Gorffennaf 2024.

Dyma naw awgrym gwych i'ch helpu i greu eich fideo eich hun:

  1. Ffilmiwch ef ym modd tirwedd: Defnyddiwch eich ffôn i recordio ym modd tirwedd i greu golwg broffesiynol – bydd hyn yn sicrhau bod cymaint o'r hyn rydych am ei ffilmio o fewn y ffrâm.
  2. Gwnewch yn siŵr bod eich ffôn yn sefydlog: Defnyddiwch stand i ddal eich ffôn yn sefydlog, gorffwyswch ef yn erbyn gwrthrych arall fel ychydig o lyfrau, neu gofynnwch i rywun ei ddal i chi.
  3. Fframiwch eich hun yn iawn:  Sicrhewch fod eich pen a'ch ysgwyddau (o ganol y frest i fyny) yn weladwy, gyda'ch pen wedi'i leoli yng nghanol y sgrin.
  4. Gwiriwch y meicroffon:  Gwnewch yn siŵr nad oes dim byd yn gorchuddio meicroffon eich ffôn, fel cês ffôn neu eich llaw.
  5. Ymgysylltwch â'r camera: Edrychwch yn syth i mewn i lens eich camera.  Cofiwch anadlu, amrantu a siarad yn naturiol.
  6. Peidiwch â syllu ar eich nodiadau:  Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ymarfer yr hyn rydych am ddweud o flaen llaw fel nad ydych yn syllu ar eich nodiadau wrth ffilmio.
  7. Gwiriwch eich cefndir: Cyn recordio, gwnewch yn siŵr bod eich cefndir yn daclus ac yn rhydd o bethau a fydd yn tynnu sylw.  Hefyd, lleihewch sŵn cefndir.
  8. Dechreuwch a gorffenwch gyda saib: Gadewch ychydig eiliadau o dawelwch unwaith y byddwch wedi pwyso'r botwm recordio cyn i chi ddechrau siarad. Mae hefyd yn ddefnyddiol gadael ychydig eiliadau o dawelwch ar ôl i chi orffen.  Mae hyn yn gwneud eich fideo yn haws i'w olygu.
  9. Defnyddiwch iaith syml: Dylech osgoi acronymau a jargon na fydd y cyhoedd yn eu deall o bosibl.

Rhaid i'ch fideo fod hyd at 60 eiliad a gellir ei ffilmio ar ffôn symudol neu drwy Teams.

Fe'ch anogir i gyfathrebu sut mae eich ymchwil wedi cael effaith, neu y bydd yn cael effaith, ac ar bwy neu beth, trwy ateb un neu fwy o'r cwestiynau canlynol:

  • Pam mae eich ymchwil yn bwysig
  • Sut mae eich ymchwil wedi newid y ffordd rydych chi'n gweithio
  • Sut mae eich ymchwil wedi gwneud gwahaniaeth i'r rhai rydych chi'n gofalu amdanynt
  • Beth sy'n eich gwneud chi'n gyffrous am gyflwyno eich ymchwil

Rydym yn annog pob ymchwilydd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol, ymarferwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, a thimau ymchwil cysylltiedig ehangach i gyflwyno cais i arddangos rhagoriaeth eich ymchwil.

Am fwy o wybodaeth ar sut i gyflwyno cais, darllenwch y ddogfen ganllaw Gwobrau.

Cynhelir Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar 10 Hydref 2024 yng Ngerddi Sophia, Caerdydd.  Y thema eleni yw Mae Ymchwil yn Bwysig.

Cofrestrwch nawr i ymuno â'r gynhadledd yn bersonol neu drwy’r ffrwd byw.

Gallwch hefyd gyflwyno eich crynodebau am drafodaeth dull TED yn y gynhadledd.