Andrew Hall

Mr Andrew Hall

Cyd-arweinydd Arbenigedd ar gyfer y Glust, y Trwyn a’r Gwddf

Bu Mr Andrew Hall yn dilyn hyfforddiant llawfeddygol yn Llundain, gan ddatblygu portffolio ymchwil gweithredol yn cynnwys datblygu grŵp cydweithredol y DU ar ymchwil hyfforddeion y Glust, y Trwyn a’r Gwddf fel aelod sefydlol a derbyniodd Wobr Ymchwil Laryngoleg a Rhinoleg y Gymdeithas Frenhinol Meddygaeth yn 2017. Bu yna’n dilyn hyfforddiant cymrodoriaeth is-arbenigedd ac yn gwneud ymchwil glinigol yn Sydney ac yn Ysbyty Great Ormond Street.

Yn 2018, derbyniodd Andrew grant Coleg Brenhinol y Llawfeddygon i gefnogi ymchwil ym maes efelychu meddygol yn Ysbyty Plant Boston ac Ysgol Feddygol Harvard, ac mae’n canolbwyntio ar integreiddio arloesi ac ymchwil fel rhan o’i rôl fel arweinydd sgiliau clinigol ac efelychu ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae’n arweinydd ymchwil ar gyfer Fforwm Mewnblanwyr Ifanc Dyfeisiau Clywedol y DU ac yn Ben Ymchwilydd ar nifer o astudiaethau ymchwil glinigol ar y portffolio, gan gynnwys hap-dreial wedi’i reoli yn edrych ar fewnblannu yn y cochlea.


Yn y newyddion:

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)

Cysylltwch â Andrew

Ffôn: 02920745085

E-bost

Twitter