Helen Grindell

Helen Grindell

Pennaeth y Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi

Dechreuodd Helen ar ei gyrfa ym maes ymchwil yn 2001 fel Swyddog Ymchwil i elusen iechyd meddwl yn ymchwilio i brofiadau, anghenion a dyheadau gwaith pobl â phroblemau iechyd meddwl difrifol, a dyma oedd pwnc ei MPhil ym Mhrifysgol Abertawe yn 2008.

Ers hynny, bu’n gweithio mewn llawer o swyddi ymchwil a datblygu amrywiol cenedlaethol yn y trydydd sector, y sector preifat, i’r llywodraeth a’r GIG. Bu Helen yn rheoli rhaglen ymchwil weithredu Ewropeaidd er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a gwahaniaethu yn y gweithle, yn ogystal â rheoli rhwydwaith ymchwil gofal sylfaenol cenedlaethol yng Nghymru. Treuliodd rywfaint o amser hefyd mewn swydd polisi yn Llywodraeth Cymru gan arwain y strategaeth ymchwil a datblygu gofal sylfaenol i Gymru.

Bu Helen yn gweithio i adran seilwaith ymchwil a datblygu Lloegr, fel Rheolwr Arweiniol Rheoli a Llywodraethu Ymchwil Western Comprehensive Local Research Network, ac yna fel yr Uwch Reolwr, gan arwain y broses o greu, rheoli a datblygu’r rhwydwaith.

Ar ôl dychwelyd i Gymru yn 2010, penodwyd Helen yn Uwch Reolwr y Rhaglen Cydweithredu Academaidd ym maes Gwyddorau Iechyd ac yna yn 2015, arweiniodd y broses o weithredu, cyflwyno a rheoli’r Ganolfan Gymorth. Mae Helen yn gweithio yn ei swydd genedlaethol bresennol fel Pennaeth y Ganolfan Gymorth ers 2015, ble mae’n goruchwylio 12 o swyddogaethau a gwasanaethau’r Ganolfan Gymorth.

Mae Helen yn Bennaeth y Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi, sef un o fentrau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a ariennir gan Is-adran Ymchwil a Datblygu Llywodraeth Cymru.


Yn y newyddion:

Ymgynghoriad ar gynnwys Fframwaith Ymchwil a Datblygu draffy y GIG (Mai 2023)

Dyfodol cyffrous gyda phenodiad rheolwr ymchwil newydd ENRICH Cymru (Ebrill 2022) 

Lansio gwefan newydd i hyrwyddo gwerth gyrfaoedd academaidd clinigol (Hydref 2021)

Sefydliad

Gwasanaeth Cefnogi a Chyflenwi

Cysylltwch â Helen

E-bost 

Ffôn: 02920 230457

Twitter