Kate Button

Kate Button

Arweinydd Arbenigol ar Anhwylderau Cyhyrysgerbydol

Mae Kate Button yn Ffisiotherapydd siartredig a’i maes arbenigol yw anhwylderau cyhyrysgerbydol. Mae’n ymddiddori mewn ymchwil yn ymwneud â datblygu ymyriadau digidol i gefnogi ffisiotherapi yn y cartref. Mae’n rhan o dîm o ymchwilwyr sy’n astudio sut y gellir defnyddio biomecaneg i ddarparu sail ar gyfer cynllunio technegau ailsefydlu newydd i gleifion ag osteoarthritis ac unigolion sydd wedi torri tennyn croesffurf y ben-glin. Ar hyn o bryd, mae’r tîm yn gwerthuso barn cleifion a ffisiotherapyddion ar ddefnyddio synwyryddion wedi’u gwisgo ar y corff fel rhan o becyn adborth symudiad ar gyfer trin poen pen-glin. Mae hi’n gweithio’n agos â gwyddonwyr cyfrifiadurol ym Mhrifysgol Caerdydd ac, ar y cyd â’r adran Orthopaedeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, maen nhw wedi bod yn defnyddio gwybodeg iechyd i werthuso llwybrau gofal ar gyfer cleifion sy’n ceisio gofal arbenigol ar gyfer poen clun a phen-glin.

Mae gan Kate nifer o rolau fel arweinydd ymchwil, gan gynnwys arweinydd Ymchwil a Datblygu ar gyfer Therapïau (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro), Cyfarwyddwr Llywodraethu Ymchwil ac Arweinydd Thema Ymchwil i sicrhau’r iechyd gorau posibl drwy weithgareddau, ffordd o fyw a thechnoleg (Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd). Ar hyn o bryd, mae’n goruchwylio 6 myfyriwr PhD ac yn fentor i 2 ffisiotherapydd sydd â Dyfarniad First into Research y Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil. Mae hi’n aelod o’r Pwyllgor Llywio ar gyfer y Gymdeithas Ffisiotherapi Siartredig a phanel Gosod Blaenoriaethau Ymchwil Ffisiotherapi Cynghrair James Lind.


Yn y newyddion:

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)

Lleddfwch y boen yn eich cymalau gartref: astudiaeth newydd sy’n ymchwilio i fuddion rhaglen ffisiotherapi ar-lein (Hydref 2022)

Dyfarnu bron i £6.5 miliwn i ymchwil achub bywyd yng Nghymru (Hydref 2021)

 

Sefydliad

Prifysgol Caerdydd

Cysylltwch â kate

E-bost

Ffôn: 02920 687734

Twitter